Skip to main content

Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog

5 men sat around a table in a cafe

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cynnal Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog yn Rhydfelen, ac mae croeso i gyn-filwyr o bob oed ddod draw i gwrdd a sgwrsio â phobl o'r un cefndir â nhw.

Yn aml iawn, mae'n anodd i'r rhai sydd wedi gwasanaethu'r Lluoedd Arfog gartref neu dramor sgwrsio'n agored â theulu a ffrindiau am eu profiadau. Mae nifer o'n cyn-filwyr yn dal i ddioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, ac yn aml, maen nhw'n ail-fyw profiadau trawmatig mewn hunllefau ac ôl-fflachiadau. Mae eraill yn wynebu problemau megis ynysu, problemau cwsg a thrafferthion o ran canolbwyntio.

Mae Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog yn Rhydfelen yn fan diogel i'r rhai sy'n awyddus i gael sgwrs anffurfiol, derbyn gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael a meithrin cyfeillgarwch newydd â chyn-filwyr eraill.

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cwrdd yng Nghanolfan Gymuned Rhydfelen bob pythefnos, a hynny o 11am ymlaen ar ddydd Mercher. Mae te/coffi a rholiau brecwast ar gael ac mae modd parcio am ddim.

Mae cynrychiolwyr o Wasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn dod i'r clybiau brecwast hefyd, a hynny er mwyn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth. 

Y Gwasanaeth i Gyn-filwyr

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:

“Rydw i bob amser yn mwynhau ymweld â Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái. Mae gyda ni ddyled enfawr i'r bobl hyn ac rydw i eisiau iddyn nhw wybod bod cymorth ar gael iddyn nhw, os ydyn nhw ei angen.

“Mae gyda ni Wasanaeth gwych i Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, ac mae gan ein swyddogion gyfoeth o wybodaeth er mwyn helpu i wneud bywyd ychydig yn haws i’r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r Lluoedd Arfog.

“Mae modd i deuluoedd ein cyn-filwyr fanteisio ar y gwasanaeth yma hefyd. Maen nhw'n aml yn rhannu'r baich mae eu hanwyliaid yn eu hwynebu wrth fynd i ryfel."

Combat Stress – 0800 138 1619

Help For Heroes – 0300 303 9888

SSAFA – 0800 260 6767

Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cwrdd yng Nghanolfan Gymuned Rhydfelen bob yn ail ddydd Mercher bob mis, ac mae croeso i gyn-filwyr o bob oed ddod i Glwb Brecwast y Lluoedd Arfog. Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges at Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái ar Facebook neu ffoniwch 0774 748 5619.

A yw'r lluniau diweddar o Affganistan wedi effeithio arnoch chi? Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor ar gael i gynnig help, cymorth ac arweiniad cyfrinachol AM DDIM i'r sawl sydd eu hangen. Ffoniwch 07747 485 619 neu e-bostio: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 16/09/2021