Skip to main content

Y diweddaraf am waith presennol ar safle Tirlithriad Tylorstown

The Council is undertaking an additional phase of work at the Tylorstown landslip site

Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da mewn perthynas â cham cychwynnol gwaith i sefydlogi'r llethr ger y llwybr sydd ar gau ar safle Tirlithriad Tylorstown. Mae disgwyl i'r gwaith yma gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref.

Cafodd Alun Griffiths Ltd ei benodi gan y Cyngor i gynnal y cam ychwanegol o waith yma, a ddechreuodd ar y safle yn ystod misoedd olaf yr haf 2021. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ochr cwm gogledd-ddwyreiniol y mynydd, sy'n llwybr hen reilffordd ger y llwybr troed sydd ar gau ar safle'r tirlithriad.

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn Nhylorstown yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, pan gofnododd Rhondda Cynon Taf y glaw trymaf a'r llifogydd mwyaf difrifol ers y 1970au. Roedd y tirlithriad yn cynnwys 60,000 tunnell o ddeunydd gwastraff, ac fe rwystrodd dyffryn yr afon, difrodi carthffos fudr, gorchuddio prif gyflenwad dŵr yfed strategol a gorchuddio llwybr troed/llwybr beicio.  

Ym mis Mehefin 2021, cwblhaodd contractwr y Cyngor, Walters Ltd, Gamau Dau a Thri o'r Cynllun Adfer y cytunwyd arno. Roedd y cynllun yn cynnwys atgyweirio argloddiau, symud deunydd o'r cwm i safleoedd gwaredu, ac ailagor dau o'r tri llwybr a rennir dros dro trwy'r safle.

Mae'r gwaith sefydlogi sydd wrthi'n cael ei gynnal ar ben Cam Tri. O ganlyniad i'r tirlithriad, arweiniodd llif dŵr at greu llinellau sgwrio dwfn, difrodi waliau cynnal a lledaenu malurion dros y llwybr troed pan fo'n bwrw glaw. Cafodd ffosydd dal malurion eu gosod i leihau'r broblem yma yn ystod y gaeaf y llynedd.

Mae'r gwaith presennol yn cynnwys gosod system rwydo ar y mannau wedi'u heffeithio waethaf, atgyweirio a sefydlogi llinellau sgwrio dwfn, atgyweirio'r waliau cynnal a gafodd eu difrodi a gosod llwybrau dŵr i'r system ddraenio. Bydd hyn yn helpu i atal difrod yn y dyfodol. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y mis, a hynny yn ôl yr amserlen.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae gwaith atgyweirio cychwynnol yn mynd rhagddo ar y llethr ger yr unig lwybr troed sydd ar gau trwy safle Tirlithriad Tylorstown, a hynny'n dilyn cwblhau Camau Dau a Thri'r Cynllun Adfer yn ystod misoedd cyntaf yr haf. Mae gwaith presennol ar y safle yn cynnwys cynnal cyfres o atgyweiriadau cychwynnol i wyneb y mynydd cyn dechrau Cam Pedwar.

“Mae'r Cyngor hefyd wrthi'n paratoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer Ymgynghoriad Cyn-ymgeisio ag aelodau'r cyhoedd. Bydd yr ymarfer ymgysylltu yma yn rhan o'r cais cynllunio yn y dyfodol ar gyfer Cam Pedwar. Bydd y cam yma'n cynnwys gwaith adfer ar domen olaf y llethr. Bydd cais cynllunio ar gyfer defnydd parhaol o ddeunydd y tirlithriad wedi'i symud o sianel yr afon.”

Byddwn ni'n rhannu manylion ar sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad maes o law. Mae'n debygol y bydd yr holl waith tuag at Gam Pedwar yn cael ei gynnal yn 2022. Mae hyn yn amodol ar y Cyngor yn derbyn caniatâd ffurfiol perthnasol.

Wedi ei bostio ar 15/10/21