Skip to main content

Cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon

BHM Logo

Mae'r Cyngor yn cefnogi Mis Hanes Pobl Dduon trwy gynnal achlysur rhithwir ar gyfer staff, swyddogion ac Aelodau Etholedig y Cyngor yr wythnos yma ar y thema 'Hanes Pobl Dduon yng Nghymru a Thu Hwnt.'

Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan yr hanesydd lleol a darlithydd prifysgol, Darren Macey. Bydd yn trafod Pobl Dduon bwysig o'n hanes a'u heffaith ar gymdeithas.

Bydd Mr Macey, sy'n darlithio ym Mhrifysgol De Cymru ac yn arbenigo mewn hawliau sifil, yn bwrw golwg fanwl ar hanes Pobl Dduon yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar arwyddocâd ac effaith yr hanes a'r bobl hynny yng Nghymru heddiw.

Bydd y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cyflwyno'r achlysur rhithwir yn swyddogol.

Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn digwydd bob mis Hydref ac mae'n cydnabod cyfraniad unigolion, grwpiau a sefydliadau Pobl Dduon y DU, yn ogystal â'u cofio a'u dathlu.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth :

“Rydyn ni'n falch o fod yn Fwrdeistref Sirol sy'n llawn amrywiaeth, sydd â hanes cryf o groesawu unigolion o bob cwr o'r byd.

“Rwy’n falch iawn bod hanes Pobl Dduon yn cael ei ddathlu, nid yn unig trwy gydol mis Hydref, ond drwy’r flwyddyn gyfan.

Mae carfan Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor yn arwain y ffordd wrth i'r Awdurdod Lleol barhau i gryfhau ei ymrwymiad i addysgu ein hunain ac eraill.”

Mae'r Cyngor yn cynnal achlysur rhithwir i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon ddydd Mercher, 20 Hydref.

Wedi ei bostio ar 20/10/21