Skip to main content

Cwblhau gwaith adeiladu cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd Pontypridd

The new Pontypridd Extra Care facility, Cwrt yr Orsaf, has now been constructed

Mae'r Cyngor a Linc Cymru (Linc) wedi cyhoeddi bod gwaith adeiladu Cwrt yr Orsaf, y cyfleuster Gofal Ychwanegol newydd ym Mhontypridd sydd â lle i 60 o breswylwyr, wedi'i gwblhau. Mae trefniadau wrthi'n cael eu datblygu i'r preswylwyr cyntaf symud i mewn yn fuan.

Wedi'i adeiladu ar safle hen Lys Ynadon Pontypridd yn ardal Graig, dyma'r trydydd cyfleuster Gofal Ychwanegol o'r radd flaenaf yn Rhondda Cynon Taf. Y ddau arall yw Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau a Maesyffynnon yn Aberaman. Mae Gofal Ychwanegol yn helpu pobl hŷn i fyw bywydau mor weithgar ac annibynnol â phosibl, gyda chymorth ar gael ddydd a nos ar y safle er mwyn bodloni anghenion y preswylwyr.

Mae buddsoddiad o £50 miliwn wrthi'n cael ei wneud er mwyn darparu 300 o welyau Gofal Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r ardaloedd dan sylw ar gyfer hynny’n cynnwys Maesyffynnon, Cwrt yr Orsaf, a chynlluniau yn y dyfodol yn ardal Porth, (ar safle Cartref Gofal Preswyl Dan-y-Mynydd), Aberpennar a Threorci. Mae'r rhain yn cael eu datblygu ar y cyd gan y Cyngor a Linc. Mae datblygiad Cwrt yr Orsaf wedi elwa o gyfraniad cyllid sylweddol gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.

Ar ôl cwblhau'r cam adeiladu, cafodd Cwrt yr Orsaf ei drosglwyddo i'r Cyngor gan y contractwr, Jehu Project Services Ltd, ddydd Gwener 15 Hydref. Mae'r Cyngor a Linc yn gweithio i ddechrau symud y preswylwyr cyntaf i mewn i'r cyfleuster newydd, ac mae disgwyl i hyn ddigwydd yn fuan.

Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys 60 o fflatiau newydd (56 fflat un ystafell wely, a 4 fflat dwy ystafell wely), yn ogystal ag ystafell fwyta a lolfa, cegin gymunedol, salon trin gwallt, maes parcio â lle i 31 car, gerddi cymunedol wedi'u tirlunio, ac uned gofal oriau dydd.  Mae'r fynedfa i'r safle hefyd wedi’i ehangu.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Rydw i wrth fy modd bod gwaith adeiladu cyfleuster Gofal Ychwanegol rhagorol Cwrt yr Orsaf yn ardal Graig wedi'i gwblhau, a'i fod bron yn barod i groesawu ei breswylwyr cyntaf. Fel y cyfleusterau presennol yn Nhonysguboriau ac Aberaman, dyma ddatblygiad modern, sydd â digon o le ac offer, sy'n rhoi gofal penodol er mwyn diwallu anghenion pobl hŷn.

“Mae’r 60 fflat yng Nghwrt yr Orsaf yn cyfrannu at ein hymrwymiad i ddarparu 300 o leoedd Gofal Ychwanegol ledled Rhondda Cynon Taf trwy bum datblygiad newydd. Y cyntaf o'r rhain oedd Maesyffynnon, a agorwyd yn 2020, ac mae cynnydd wedi'i wneud ar y trydydd, yn ardal Porth, dros y misoedd diwethaf. Mae gwaith dymchwel hen adeiladau Cartref Gofal Preswyl Dan-y-Mynydd wedi dechrau. Mae Linc Cymru wedi ymgynghori â'r gymuned ar ei gynlluniau i ddefnyddio'r safle yn gyfleuster Gofal Ychwanegol, a hynny er mwyn llywio ei waith cynllunio i'w gyflwyno yn y dyfodol.

“Mae'r buddsoddiad yma mewn cyfleusterau Gofal Ychwanegol, ochr yn ochr â'n partner Linc, wrth galon ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio darpariaeth gofal preswyl a chynyddu'r opsiynau sydd ar gael i bobl hŷn. Mae Gofal Ychwanegol yn darparu cymorth 24/7 mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan greu cymunedau ym mhob adeilad. Mae'r cymorth sy'n cael ei gynnig hefyd yn annog preswylwyr i ddod yn rhan o'r gymuned ehangach.

“Gyda'r adeilad bellach wedi'i drosglwyddo gan y contractwr, mae'r Cyngor a Linc yn gweithio gyda'i gilydd i symud y preswylwyr cyntaf i mewn i Gwrt yr Orsaf yn fuan iawn. Rydw i'n edrych ymlaen at ymweld â'r cyfleuster yn yr wythnosau nesaf er mwyn gweld y datblygiad sylweddol a chwrdd â'i breswylwyr cyntaf.”

Ychwanegodd Louise Attwood, Cyfarwyddwr Gweithredwr Eiddo gyda Linc Cymru: “Mae cwblhau'r cynllun yma sydd o'r radd flaenaf yn gyflawniad sylweddol wrth i ni weithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ddarparu 300 o leoedd gofal ychwanegol newydd yn y sir.

“Mae cyllid Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru wedi'n galluogi i ddatblygu cynllun gofal ychwanegol addas i'r diben. Bwriad y cynllun yw rhoi cymorth i breswylwyr fyw'n annibynnol a diwallu eu hanghenion sy'n newid.

“Mae lleoliad canolog Cwrt yr Orsaf a'r dyluniad y tu mewn i'r adeilad yn gwneud y cartrefi yma'n amgylchedd unigryw a hardd i fyw ynddo. Edrychwn ymlaen at groesawu ein preswylwyr newydd a gobeithiwn y byddan nhw'n mwynhau creu cymuned gymdeithasol a bywiog gyda'i gilydd.”

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James : “Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o gwblhau’r prosiect yma'n llwyddiannus. Bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau cymaint o bobl.

“Mae datblygu tai Gofal Ychwanegol yn fodel amgen allweddol o lety yn y gymuned. Bydd yn gwella iechyd, lles ac annibyniaeth pobl hŷn ac yn osgoi gorddibyniaeth ar leoliadau gofal preswyl.

“Mae creu’r cyfleuster cynaliadwy yma hefyd yn ychwanegu opsiwn newydd i’r farchnad dai ar gyfer pobl hŷn ac mae hyn, yn ei dro, yn hyrwyddo annibyniaeth a chaniatáu i bobl fod wrth wraidd gwneud eu dewisiadau eu hunain."

Wedi ei bostio ar 15/10/2021