Skip to main content

Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft y Cyngor

Sunrise - pontypridd - Rocking Stones - Pontypridd Common-8-4

Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus sy'n gwahodd trigolion, busnesau ac ymwelwyr i ddweud eu dweud ar Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft y Cyngor, a hynny er mwyn helpu i lywio'r ffordd rydyn ni'n hyrwyddo ac yn gwella potensial Rhondda Cynon Taf fel canolfan i ymwelwyr.

Mae gyda ni arlwy amrywiol ac unigryw i ymwelwyr eisoes, gydag atyniadau poblogaidd megis Lido Cenedlaethol Cymru - Lido Ponty, y Bathdy Brenhinol, Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda a Distyllfa Penderyn eisoes yn denu miloedd o ymwelwyr i'r fwrdeistref sirol bob blwyddyn cyn y bu'n rhaid iddyn nhw gau oherwydd y pandemig.

Bellach, mae cyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru wedi'u llacio rhywfaint ac mae'r sector twristiaeth a lletygarwch yn dechrau ailagor. Yn ogystal â hynny, mae agweddau pobl tuag at deithio wedi newid, gyda llawer yn awyddus i drefnu gwyliau yn y DU yn hytrach na mynd dramor. O ganlyniad i hyn oll, mae Rhondda Cynon Taf mewn sefyllfa wych i ddod yn gyrchfan wyliau boblogaidd.

Mae disgwyl i'r arlwy cyfredol gael ei ategu gan nifer o atyniadau newydd cyffrous - gan gynnwys Parc Beicio Disgyrchiant ym Mharc Gwledig Cwm Dâr a'r hir-ddisgwyliedig Zip World Tower. Mae hyn yn golygu bod rhagor o botensial fyth gan Rondda Cynon Taf i ddod yn ardal y mae pobl yn teimlo bod rhaid iddyn nhw ymweld â hi.

Er mwyn cyflawni'r nod yma, llunion ni Strategaeth Dwristiaeth Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n gwahodd trigolion lleol, y rhai sy'n gweithio yn Rhondda Cynon Taf, perchnogion busnes ac ymwelwyr i ddweud eu dweud drwy'r arolwg yma a fydd ar gael o ddydd Llun 17 Mai, pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.

Bydd eich barn yn helpu'r Cyngor i ffurfioli ei Strategaeth Dwristiaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf, a fydd yn helpu i lywio'r economi i ymwelwyr ac yn helpu'r Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau ar gyfer y sir. 

Mae'r arolwg ar agor o ddydd Llun 17 Mai hyd at ddydd Llun 14 Mehefin 2021. I gymryd rhan yn yr arolwg, cliciwch ar y ddolen yma. 

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: “Mae’r diwydiant twristiaeth wedi cael ei daro’n arbennig o galed gan effeithiau’r pandemig, ac roedd angen i atyniadau dan do ac awyr agored gau am gyfnodau hir dros y deuddeg mis diwethaf er mwyn cefnogi’r ymdrechion cenedlaethol i ostwng cyfraddau COVID-19 a diogelu iechyd y cyhoedd.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yr wythnos yma y gall lletygarwch dan do ddechrau ailagor o ddydd Llun 17 Mai, a hynny ar ôl cynnydd parhaus o ran lleihau nifer yr achosion o COVID-19 ledled Cymru, a dyma newyddion i’w croesawu.

“Wrth i ni symud ymhellach tuag at weld rhagor o normalrwydd yn ein bywydau, mae'n hanfodol ein bod ni'n ceisio manteisio i'r eithaf ar yr arlwy unigryw sydd gyda ni yma yn Rhondda Cynon Taf - a'i ddefnyddio fel sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd lleol.

“Er mwyn cefnogi hyn, rydyn ni'n gofyn i drigolion, ymwelwyr a busnesau lenwi’r arolwg byr yma, a rhoi eu barn ar Strategaeth Dwristiaeth Ddrafft y Cyngor, fel bod modd cyflawni ein huchelgais o ddod yn un o brif gyrchfannau'r DU o ran profiadau i ymwelwyr.”

Wedi ei bostio ar 14/05/21