Skip to main content

Gwaith Rheoli Perygl Llifogydd ym Mhentre yn dilyn Storm Dennis

Pentre Road image 1

Pentre Road

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf am ei ymateb o ran Rheoli Perygl Llifogydd a'r gwaith parhaus ym Mhentre - gan fod y pentref yn un o'r ardaloedd a gafodd ei tharo gwaethaf yn ystod Storm Dennis a digwyddiadau storm dilynol eraill y llynedd.

Yn Chwefror 2020, achosodd Storm Dennis yr uchder a lefelau llif afonydd mwyaf erioed wrth i Rondda Cynon Taf brofi ei lifogydd gwaethaf ers y 1970au, gan effeithio ar y tu mewn i 1,476 o gartrefi neu adeiladau ledled y Fwrdeistref Sirol. Roedd yn un o bedair storm a ddigwyddodd o fewn cyfnod byr hyd at 1 Mawrth, a oedd hefyd yn cynnwys Storm Ciara, storm ddienw (Chwefror 21-24) a Storm Jorge.

Union flwyddyn ers Storm Dennis, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid o £4.4miliwn ychwanegol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, i helpu gyda’r ymdrech barhaus i drwsio priffyrdd, pontydd, cylfatiau a waliau cynnal. Pentre oedd un o'r ardaloedd a gafodd ei tharo gwaethaf, ac isod mae crynodeb o weithgaredd sylweddol y Cyngor yn y pentref, gan gynnwys ei ymateb trwy gydol y flwyddyn a'i waith parhaus heddiw. 

  • Wedi ymateb i 18 o ddigwyddiadau storm unigol, gan ddarparu adnoddau ychwanegol ar bob achlysur i gefnogi preswylwyr, gan gynnwys bod yn rhagweithiol wrth ddosbarthu bagiau tywod. Cafodd dau bwmp wrth gefn eu darparu i'w defnyddio dros y gaeaf, gan achub y blaen ar dywydd gwael yr adeg honno o'r flwyddyn.
  • Wedi ymchwilio i oddeutu 380 o adroddiadau o lifogydd, a oedd ymhlith oddeutu 2,500 o adroddiadau ledled Rhondda Cynon Taf y llynedd.
  • Arolygwyd oddeutu 3.2km o gyrsiau dŵr cyffredin a 5.5km o seilwaith draenio dŵr wyneb.Mae hyn wedi'i fapio a'i adolygu, gan arwain at waith glanhau ac atgyweirio wedi'i dargedu. Ers hynny mae tua 600 tunnell o falurion wedi'u clirio o asedau yn dilyn Storm Dennis.
  • Parhau â gwaith sylweddol yng nghilfach (mewnfa) Heol Pentre- cychwynnodd y gwaith mawr hwn ar y safle ym mis Medi 2020. Mae'n gosod cilfach cwlfert newydd, basn malurion a sawl system gorlif yn dilyn difrod storm, i leihau'r risg llifogydd lleol yn sylweddol.
  • Parhau â chynllun llwybro llifogydd yn Stryd Hyfryd - mae gwaith ar y safle yn parhau er mwyn gwella seilwaith y cwrs dŵr cyffredin â chylfat yn y parc cyfagos trwy adeiladu twll archwilio dalbwll mawr, er mwyn lleihau'r risg y bydd malurion yn rhwystro'r cylfat.
  • Wedi cwblhau'r gwaith i'r system orlif yn Stryd Lewis, lle mae system orlif lefel uchel wedi'i hadeiladu i gynyddu gallu'r seilwaith draeniau priffyrdd, a hynny mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru.
  • Wedi cwblhau gwaith atgyweirio i dyllau archwilio cwrs dŵr cyffredin presennol mewn sawl lleoliad, ar ôl nodi difrod storm.
  • Wedi gwneud rhagor o waith ar gynllun y dyfodol i wella gorsaf bwmpio Stryd y Gwirfoddolwr, gyda'r gwaith dylunio yn parhau. Bydd y cynllun yn gwella effeithlonrwydd y system, ac mae'r gwaith adeiladu wedi'i gymeradwyo ar gyfer 2021/22.
  • Wedi gwneud rhagor o waith ar gynllun y dyfodol yn Nant y Pentre, sy'n cael ei gynllunio i hwyluso llwybr rheoli Llif Dros y Tir. Bydd hyn yn lliniaru llifoedd sy'n dod o dyllau archwilio'r cwrs dŵr cyffredin yn ardal Pentre Isaf, a'r bwriad yw cynnal y gwaith adeiladu eto yn 2021/22.
  • Parhau â’r gwaith o ddatblygu achos busnes ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre, a fyddai’n lliniaru perygl llifogydd yn y gymuned, gan weithio’n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru er mwyn deall y risgiau i gyd a mynd i'r afael â nhw.
  • Paratoi achos busnes ar gyfer Ardal Risg Llifogydd Strategol Rhondda Uchaf,a fydd yn cynnwys prosiect peilot i nodi a chwblhau nifer ogynlluniau i'w gweithredu yn gyflym i reoli'r risg llifogydd leol.
  • Parhau i ddatblygu astudiaeth beilot o ran Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo yn Rhondda Fawr Uchaf, sy'n ceisio deall yn well y buddion llawn o ran mesurau perygl llifogydd a mecanweithiau cyflenwi addas.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Flwyddyn wedi Storm Dennis ar 16 Chwefror, rhoddodd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am ei ymateb sylweddol a’i ymdrechion parhaus dirfawr i atgyweirio difrod i'r seilwaith ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae’r ail ddiweddariad yn canolbwyntio ar Pentre, a brofodd sawl digwyddiad o lifogydd dros sawl digwyddiad storm trwy gydol 2020. O ganlyniad i hyn, mae gwaith mewn lleoliadau allweddol gan gynnwys  Pentre wedi cael ei flaenoriaethu.

“Mae gwaith mawr yn Heol Pentre i osod system cylfat newydd ac mae offer monitro o bell yn parhaumynd rhagddo. Mae cynllun llwybro llifogydd pwysig hefyd yn parhau yn Stryd Hyfryd, gyda gwaith i'r system orlif yn cael ei gynnal yn Stryd Lewis. Yn 2021/22, bydd rhagor o waith yn cael ei wneud mewn perthynas â phedwar cynllun y dyfodol - gan gynnwys ailosod yr orsaf bwmpio yn Stryd y Gwirfoddolwr.

“O'r 2,500 o adroddiadau o lifogydd a ddaeth i law gan y Cyngor y llynedd, roedd mwy na 380 ohonyn nhw ym Mhentre yn unig - ac fe ymchwiliodd Swyddogion y Cyngor i bob un. Mae'r diweddariad hefyd yn cadarnhau bod 600 tunnell o falurion wedi'u tynnu o asedau lleol ym Mhentre ers Storm Dennis, a nodwyd wrth archwilio bron i 9km o gyrsiau dŵr a seilwaith draenio dŵr wyneb. 

“Mae’r Cyngor wedi ei gwneud yn glir y byddai effeithiau Storm Dennis i'w teimlo am flynyddoedd i ddod, ac mae’n parhau i ymrwymo i geisio cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio i'r seilwaith mewn cymunedau, a chyflawni'r gwaith. Mae hefyd wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni wedi'i baratoi hyd yn oed yn well ar gyfer digwyddiadau stormydd yn y dyfodol trwy weithio tuag at weithredu 11 o argymhellion a gafodd eu cytuno gan y Cabinet ym mis Medi 2020.

“O ganlyniad, mae camau allweddol wedi’u cyflawni, gan gynnwys ymgynghoriad Rheoli Perygl Llifogydd fel bod modd i ni ddeall patrymau hanesyddol llifogydd yn ein cymunedau yn well, a sefydlu ystafell reoli aml-bartner bwrpasol i’w defnyddio yn ystod stormydd yn y dyfodol, er mwyn monitro ac ymateb yn gyflym.”

Wedi ei bostio ar 23/03/21