Skip to main content

Dathlu Llwyddiant ein Prentisiaid yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

Apprentice-Award-2021

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi profi llwyddiant yn ystod Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Roedd tri o brentisiaid y Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni rithwir ar-lein, a gafodd ei chynnal ddydd Iau, 17 Mehefin. Roedd y Cyngor hefyd yn fuddugol yng nghategori Macro-gyflogwr y Flwyddyn.

Dyma'r eildro i Gyngor Taf Rhondda Cynon ennill gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yn rhan o Wobrau Prentisiaethau Cymru. Cafodd y Cyngor ei ganmol am ei ddull o gefnogi’i Brentisiaid yn ystod pandemig y coronafeirws gan eu galluogi nhw i barhau â'u hastudiaethau a hefyd sut y cafodd Prentisiaid eu symud i gefnogi'r gwasanaethau cymuned hanfodol, megis gweithio gyda'r GIG ar ddata cynllun gwarchod y coronafeirws a dosbarthu pecynnau bwyd.

Enillodd Sophie Williams, o Hirwaun, Wobr Doniau'r Dyfodol, a Bethany Mason, o Lantrisant, oedd Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Roedd Owen Lloyd, un o brentisiaid eraill y Cyngor, wedi cyrraedd y rhestr fer.

Meddai'rCynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Ar ran pawb yn y Cyngor, hoffwn i longyfarch Bethany, Sophie ac Owen ar eu llwyddiant yn ystod Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

“Mae Cynllun Prentisiaethau a Rhaglen i Raddedigion y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn dros nifer o flynyddoedd, gan helpu pobl i ennill sgiliau a phrofiad pwysig a llwyddo mewn gyrfa o'u dewis.

"Fel cynifer o brentisiaid y Cyngor, mae’r tri unigolyn yma'n gwneud gwaith anhygoel yn eu meysydd gwasanaeth ac rydw i'n siŵr y bydd pob un yn mwynhau gyrfa lwyddiannus."

Roedd Sophie Williams yn anelu at yrfa ym myd addysgu nes iddi weld yr effaith gadarnhaol y mae maethu yn ei chael ar fywydau plant. Cafodd Sophie brofiad uniongyrchol o effaith gadarnhaol maethu pan ddaeth ei mam, Lesley, yn rhiant maeth. O ganlyniad i hynny, penderfynodd Sophie anelu at ddod yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig.

Roedd Sophie eisoes wedi graddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg ac wedi bwriadu gwneud Cwrs TAR. Ond, dewisodd hi ddod yn brentis gyda Maethu RhCT ym mis Medi 2019, cyn symud ymlaen i gael ei dyrchafu'n swyddog recriwtio rhanbarthol.

Yn ystod ei chyfnod gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, mae Sophie wedi cydweithio â phobl sydd wedi gwneud ceisiadau i'r gwasanaeth maethu ac wedi llunio llyfrau taith bywyd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal maeth, gan eu helpu i ddeall pam eu bod nhw'n byw gyda rhieni maeth. Mae hi hefyd wedi gofalu am blant sy'n agored i niwed ac sy'n ymddwyn yn heriol mewn gwasanaethau preswyl yn rhan o secondiad.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Gweinyddu Busnes gyda Choleg y Cymoedd, mae Sophie yn gobeithio dychwelyd i'r brifysgol yn y dyfodol i astudio Gradd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol.

Dywedodd yr enillydd Sophie Williams: “Rwy’n mwynhau fy ngwaith gyda Maethu RhCT yn fawr. Ar ôl gweld yr effaith gadarnhaol y mae cariad a gofal yn eu cael ar blant maeth, roeddwn i eisiau gweithio yn y gwasanaeth a'i hyrwyddo i annog rhagor o bobl i ystyried dod yn rhiant maeth.

“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi cyfle i fi weithio'n llawn amser, ennill cymhwyster a chael blas ar nifer o agweddau gwahanol ar waith cymdeithasol.”

Mae Bethany Mason hefyd yn mwynhau gweithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf ac mae wedi ymrwymo i'w datblygiad personol ers ymuno â'r awdurdod lleol fel prentis Clerc Cofnodi Data yn 2016.

Mae Bethany wedi bod yn gweithio'n rhan o Wasanaeth Profedigaethau'r Cyngor gan ymateb i gyfres o heriau anodd, a gwneud gwahaniaeth enfawr i staff Amlosgfa Glyn-taf a'r teuluoedd sy'n galaru.

Mae hi hefyd wedi datblygu sgiliau arwain ac wedi sicrhau bod Amlosgfa Glyn-taf yn rhedeg yn ddi-dor trwy gynnal gwaith i wneud cofnodion claddu a chynlluniau mynwentydd RhCT yn ddigidol. Yn ogystal â hynny roedd Bethany wedi helpu i sefydlu porth digidol er mwyn cadw cerddoriaeth sy'n cael ei defnyddio mewn gwasanaethau amlosgi i'r teulu, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol, sydd wedi bod yn hynod bwysig ar gyfer angladdau sy wedi'u cynnal yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig.

Mae Bethany wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen ac mae bellach ar fin cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes. Mae'r cyrsiau yma yn cael eu cynnal gan Goleg y Cymoedd ar Gampws Nantgarw.

Cwblhaodd Owen Lloyd gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) gyda rhagoriaeth yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, gan orffen ei brentisiaeth o fewn blwyddyn - hanner yr amser disgwyliedig. Mae bellach wedi cychwyn HNC Lefel 4, a'i nod yn y pen draw yw cymhwyso fel Peiriannydd Sifil Siartredig.

Mae Owen yn gobeithio cymhwyso'n dechnegydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) (EngTech) ar ôl derbyn Ysgoloriaeth Quest gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil ac ennill Gwobr Prentis y Flwyddyn ym maes Priffyrdd a Goleuadau Stryd yn ystod achlysur Y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn ddathliad blynyddol o gyflawniad rhagorol o ran hyfforddiant a phrentisiaethau. Bydd 35 o brentisiaid yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 29 Ebrill.

Mae'r seremoni'n cynrychioli uchafbwynt y flwyddyn o ran dysgu seiliedig ar waith, ac mae'n dangos y busnesau a'r unigolion hynny sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaeth Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail yma.

Mae'r seremoni wedi'i threfnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru. Mae'r Cynllun Prentisiaethau yng Nghymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Wedi ei bostio ar 30/06/21