Skip to main content

Mae'r pwll nofio ar ei newydd wedd yng Nglynrhedynog wedi ailagor i'r cyhoedd

Ferndale Pool 2 (2) - Copy

Mae'r Cyngor wedi ailwampio adeilad y pwll nofio yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog, sydd bellach ar agor i'r cyhoedd. Cyfleuster o'r radd flaenaf yw e diolch i'r trawsnewidiad yma.

Mae rhaglen waith helaeth sydd werth £1 miliwn wedi'i chynnal yn yr adeilad a oedd yn cynnwys ailgynllunio'r tu mewn a chreu ystafelloedd newid, cawodydd a thoiledau newydd. Yn yr adeilad bellach hefyd, mae ystafell ffitrwydd newydd, oriel wylio a swyddfeydd. Mae'r Cyngor wedi cyflawni hyn i gyd yn rhan o'i fuddsoddiad Rhaglen Gyfalaf.

Mae'r neuadd bwll bresennol hefyd wedi'i gwella gyda nenfwd ymestyn sy'n rheoli anwedd, system llawr resin, a sianeli draenio o amgylch y pwll. Mae'r cyfleuster 21ain Ganrif hefyd wedi elwa ar osodiadau trydanol a mecanyddol newydd ynghyd â system rheoli'r tymheredd a goleuadau Deuod Allyrru Golau (LED) drwyddi draw.

O ran yr adeilad ei hun, bellach mae toeau gwastad a thoeau ar ongl newydd wedi'u hinsiwleiddio'n llawn, ac mae ffenestri a drysau allanol newydd wedi'u gosod. Mae'r brif fynedfa hefyd wedi'i gwella ac mae marciau llawr newydd yn y maes parcio.

Cafodd y pwll ei ailagor i'r cyhoedd ddydd Llun, 28 Mehefin, ar gyfer sesiynau nofio llawn hwyl i'r teulu a nofio mewn lonydd. Mae modd cadw lle ar-lein ar yr Ap Hamdden am Oes, gyda thaliadau trwy'r Ap neu wyneb yn wyneb wrth gyrraedd. Rydyn ni’n derbyn cwsmeriaid sydd heb gadw lle ymlaen llaw ond rhaid i ni gyfyngu ar y niferoedd yn unol â’r canllawiau COVID-19.

Mae nifer o gyfyngiadau COVID-19 angenrheidiol ar waith i sicrhau diogelwch yr holl ymwelwyr – gan gynnwys ciwbiclau unigol yn yr ystafelloedd newid, a glanhau'r rhain a lleoedd eraill sy'n cael eu rhannu rhwng sesiynau. Bydd y gampfa yn parhau i fod ar gau a dydy gwersi nofio'r ysgol ddim wedi ailddechrau eto.

Mae'r Cyngor yn falch iawn y gall y cyfleuster ailddechrau cynnal sesiynau Clwb Nofio Rhondda, gyda'r clwb yn dilyn ei Asesiad Risg ei hun i sicrhau diogelwch.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'n newyddion gwych bod modd i'r pwll nofio yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog ailagor i'r cyhoedd, yn dilyn buddsoddiad o £1 miliwn a gafodd ei gyflwyno gan y Cyngor. Mae'r pwll yn cael ei redeg gan yr ysgol ar gyfer y gymuned, ac roeddwn i wrth fy modd o ymweld â'u cyfleuster newydd yr wythnos yma i weld y trawsnewidiad anhygoel trwy'r adeilad i gyd.

“Mae'r buddsoddiad yma'n ategu prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif a gafodd ei gyflawni yn yr ysgol yn 2020. Roedd hynny'n cynnwys ystafelloedd TGCh newydd, ystafell Dylunio a Thechnoleg newydd, labordy Gwyddoniaeth wedi'i ailwampio a chynllun llawr newydd i greu ystafell ddosbarth ychwanegol. Bydd y pwll ar ei newydd wedd yn darparu lleoliad gwych i ddisgyblion ac eraill yn y gymuned gael gwersi nofio, unwaith y bydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu hynny."

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae'r amgylchedd newydd gwych ym Mhwll Nofio Glynrhedynog yn sylweddol well na'r cyfleusterau blaenorol, ac mae buddsoddiad y Cyngor wedi darparu canolfan Hamdden o'r radd flaenaf i'r gymuned. Mae wedi cael ei gyflwyno ochr yn ochr â chae chwaraeon 'pob tywydd' 3G, y mae'r ysgol a'r gymuned wedi bod yn ei fwynhau ers mis Medi 2018 diolch i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

“Rwy’n falch iawn bod y pwll nofio ar ei newydd wedd bellach ar agor i aelodau’r cyhoedd, yn ogystal â Chlwb Nofio Pontypridd am sawl sesiwn yr wythnos. Bellach, mae modd cadw lle ar gyfer y pwll, ac rwy'n siŵr y bydd yr holl ymwelwyr a oedd yn arfer mynd i'r hen gyfleuster yn cytuno bod hwn yn adnewyddiad gwych o'r radd flaenaf i Gwm Rhondda Fach."

Mae Pwll Ysgol Gymuned Glynrhedynog yn cael ei ailagor gyda chymorth gwasanaeth Hamdden am Oes y Cyngor, sy'n rhoi benthyg ei arbenigedd mewn systemau cadw lle, rheoli pyllau a ffitrwydd a gweithredu mewn ffordd ddiogel o ran COVID.

Er bod yr Ap Hamdden am Oes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer trefnu sesiynau nofio, dydy e ddim yn rhan o'r cynnig aelodaeth Hamdden am Oes. Dydy e ddim wedi'i gynnwys yn eich mynediad diderfyn. Caiff unrhyw ddefnyddio'r pwll gan dalu wrth gyrraedd.

Mae pwll Ysgol Gymuned Glynrhedynog wedi mabwysiadu'r mesurau diogelwch COVID-19 safonol ar gyfer cwsmeriaid: Rhaid i nofwyr wisgo'u dillad nofio o dan eu dillad arferol a newid wrth ochr y pwll, gan osod eu heiddo mewn basged â rhif. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd modd mynd i giwbicl newid sydd â'r un rhif â'r fasged, i sychu a gwisgo. Does dim modd defnyddio'r cawodydd na'r sychwyr gwallt ar hyn o bryd.

Wedi ei bostio ar 30/06/2021