Skip to main content

Buddsoddiad pellach i ymgorffori'r Gymraeg yn rhan o broses gwneud penderfyniadau'r Cyngor

Yn dilyn gohebiaeth ddiweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi manteisio ar y cyfle i fuddsoddi ymhellach yn ei wasanaethau er mwyn cynnwys ystyriaethau sy'n effeithio ar y Gymraeg yn rhan o broses gwneud penderfyniadau'r Cyngor.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae'r Mesur yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio sy'n gofyn am gydymffurfiaeth â safonau penodol fel sydd wedi'u nodi yn y Rheoliadau. Penderfynwyd bod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â Safonau penodol (Safon 88, 89 a 90) mewn perthynas â phenderfyniad a gafodd ei wneud ym mis Gorffennaf 2019 ynghylch cynigion ad-drefnu ysgolion ar gyfer ardal Pontypridd.

Mae modd gweld adroddiad Comisiynydd y Gymraeg yn ei gyfanrwydd trwy glicio yma.

Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi manteisio ar y cyfle i fuddsoddi yn ei wasanaethau er mwyn ymgorffori ystyriaethau sy’n effeithio ar y Gymraeg ymhellach yn rhan o broses gwneud penderfyniadau'r Cyngor cyn i ganfyddiadau Comisiynydd y Gymraeg ddod i'r amlwg a chyn i'r Comisiynydd gyhoeddi'i adroddiad.  

Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno proses gryfach sy'n sicrhau bod yr holl gynigion strategol allweddol yn destun Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg cyn i'r cynigion gael eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor neu'r Cyngor Llawn.

Mae'r broses newydd hon wedi'i rhannu ymhlith y staff yn rhan o sesiynau gwybodaeth gydag uwch reolwyr. Mae'r canllawiau newydd ar gyfer staff wedi'u seilio ar enghreifftiau o arfer da, sydd wedi'u cynnwys yn nogfen Comisiynydd y Gymraeg, Safonau Llunio Polisi: Creu Cyfleoedd i bersonau ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a gafodd ei chyhoeddi ym mis Medi 2020.

Erbyn hyn, mae adroddiadau Pwyllgor y Cyngor hefyd yn cynnwys adran benodol i fynd i'r afael â'r goblygiadau o ran y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae proses adolygu newydd yn cael ei chyflwyno ar lefel weithredol i drafod penderfyniadau polisi allweddol. Bydd panel adolygu sy'n cynnwys swyddogion allweddol y Cyngor sydd ynghlwm â gwaith yn ymwneud â'r Gymraeg, Cydraddoldeb, Ymgynghori a Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor yn adolygu effaith cynigion polisi strategol allweddol y Cyngor ar y Gymraeg ac, lle bo angen, yn awgrymu argymhellion a diwygiadau cyn i'r cynigion gael eu cyflwyno i Aelodau Etholedig er mwyn eu trafod.

Mae Grŵp Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn parhau i oruchwylio datblygiadau strategol, yn trafod adroddiadau gan adrannau perthnasol ar faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg ac yn cyflwyno argymhellion i Gabinet y Cyngor. Mae Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn parhau i fonitro sut mae polisi'r Gymraeg y Cyngor yn cael ei roi ar waith ac unrhyw ddatblygiadau cysylltiedig.

Mae'r Cyngor yn credu bod y dull hwn, ynghyd â threfniadau ymgynghori ac ymgysylltu gwell, yn dangos ei uchelgais ar gyfer y Gymraeg, yn ogystal â'i ymrwymiad iddi, yn glir. Bydd hyn yn cyfrannu'n effeithiol at weledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg.

O ganlyniad i hynny, mae'r Cyngor wedi'i siomi gan ganfyddiadau diweddar Comisiynydd y Gymraeg, yn enwedig yng ngoleuni canfyddiad y Llys Apêl bod penderfyniad y Cyngor ym mis Gorffennaf 2019 mewn perthynas â Rhaglen Ad-drefnu Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer ardal Pontypridd yn un cyfreithlon. Roedd Comisiynydd y Gymraeg wedi gweithredu fel ymyrrwr yn yr achos hwn. Canfu'r Llys hefyd fod y Cyngor wedi rhoi sylw i'r agweddau ar y ddeddfwriaeth ad-drefnu ysgolion berthnasol a'r cod ymarfer cysylltiedig a oedd yn ymwneud ag asesu effaith y cynigion ar y Gymraeg
Wedi ei bostio ar 25/06/21