Skip to main content

Clwb Brecwast Ysgolion – ceisiadau ar gyfer tymor yr hydref

primary school generic

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau'r trefniadau ar gyfer ceisiadau Clwb Brecwast Ysgolion ar gyfer tymor yr hydref. Bydd rhieni a gwarcheidwaid yn cael eu gwahodd i wneud cais am leoedd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 5 Gorffennaf. Mae manylion y broses gwneud cais isod.

Bydd y ceisiadau'n ymwneud â thymor cyfan yr hydref yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf (2021/22), sef o 2 Medi hyd at 17 Rhagfyr 2021. Mae lleoedd yn gyfyngedig o hyd, a hynny er mwyn sicrhau bod modd i ddysgwyr aros yn eu swigen dosbarth, cadw pellter cymdeithasol a dilyn mesurau hylendid effeithiol. Dylai rhieni/gwarcheidwaid wneud cais dim ond os yw eu plentyn angen mynediad at frecwast iach, am ddim cyn dechrau'r diwrnod ysgol. Dyma bwysleisio nad darpariaeth gofal plant brys yw’r Clwb Brecwast.

Mae bellach yn haws nac erioed gwneud cais am le Clwb Brecwast. Bydd ceisiadau'n agor ar gyfer 19 o ysgolion bob dydd, a rhaid cwblhau'ch cais ar-lein. Mae'r ysgolion a'r dyddiadau agor ar gyfer ceisiadau wedi'u rhestru yn ôl trefn yr wyddor isod:

  • Dydd Llun, 5 Gorffennaf (7am) – Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon i Ysgol Gynradd Cwm-bach yr Eglwys yng Nghymru.
  • Dydd Mawrth, 6 Gorffennaf (7am) – Ysgol Gynradd Cwm Clydach i Ysgol Gynradd Llanhari.
  • Dydd Mercher, 7 Gorffennaf (7am) – Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref i Ysgol Gynradd Gymuned Pen-yr-englyn.
  • Dydd Iau, 8 Gorffennaf (7am) – Ysgol Gynradd Pen-y-waun i Ysgol Gynradd Trerobart.
  • Dydd Gwener, 9 Gorffennaf (7am) – Ysgol Gynradd Tylorstown i Ysgol Nantgwyn.

Mae rhestr lawn yr ysgolion a'r diwrnodau cyfatebol mewn perthynas â derbyn ceisiadau i'w gweld trwy'r ddolen yma ar wefan y Cyngor.

Bydd rhieni/gwarcheidwaid yn cael gwybod a yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus erbyn dydd Gwener, 23 Gorffennaf fan bellaf. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail capasiti ac amser derbyn pob cais. Os bydd cais am le i blentyn yn llwyddiannus, yna bydd lle hefyd yn cael ei ddyrannu'n awtomatig ar gyfer ei holl frodyr a chwiorydd.

Mae ysgolion unigol yn rhannu rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio gyda rhieni a gwarcheidwaid. Rhaid gwneud cais trwy'r ddolen yma ar wefan y Cyngor.

Bydd ceisiadau ar agor hyd at 5pm ar yr un diwrnod yr wythnos ganlynol. Felly, bydd ceisiadau am y set gyntaf o ysgolion yn cael eu derbyn hyd at 5pm ddydd Llun, 12 Gorffennaf, gyda'r set olaf o ysgolion am 5pm ddydd Gwener, 16 Gorffennaf.

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn a bydd diffyg presenoldeb yr ymgeiswyr llwyddiannus yn arwain at gynnig eu lleoedd i blant eraill. Does dim modd rhoi blaenoriaeth i grwpiau penodol (er enghraifft, y rheiny sydd wedi bod yn aflwyddiannus o'r blaen, grwpiau agored i niwed neu blant gweithwyr allweddol) gan mai bwriad y ddarpariaeth yma yw darparu brecwast iach i bob dysgwr.

Wedi ei bostio ar 29/06/2021