Skip to main content

Cynyddu mynediad i'r holl drigolion ar lwybrau cymunedol lleol

barriers

Amanda Harris (Cydnabyddiaeth am y llun: Sustrans)

Mae gwaith pwysig y Cyngor i wneud llwybrau lleol yn fwy hygyrch wedi cael ei ganmol gan Sustrans - sydd wedi rhannu stori preswylydd sydd bellach yn elwa o gael gwared ar rwystrau mynediad ger ei chartref.

Yn ddiweddar, mae ffocws wedi'i roi ar y broses o asesu llwybrau lleol mewn sawl lleoliad ar draws Rhondda Cynon Taf, i weld yr effaith y gall gael gwared ar rhwsytrau mynediad gynyddu'r gallu sydd gan aelodau o'r gymuned ddefnyddio teithio llesol - er enghraifft, pobl ag anableddau neu bobl sy'n gwthio bygi dwbl.

Yn hanesyddol, roedd rhwystrau wedi'u gosod ar lwybrau lleol penodol i stopio pobl rhag gyrru beiciau modur oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon, gwrthod mynediad i gerbydau'n fwy o faint a lleddfu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, mewn ymgynghoriad ag Aelodau Etholedig Lleol ac asesiad wedi'i dargedu yn seiliedig ar sawl ffactor, mae'r Cyngor wedi cael gwared ar rwystrau mynediad mewn sawl lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol yn ddiweddar. Bydd y broses yma'n cael ei ariannu gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. 

Mae'r Cyngor wedi cael gwared ar 28 o rwystrau hyd Llwybr Taith Taf (Llwybr Beicio Cenedlaethol 8), ac mae 16 ohonyn nhw wedi eu disodli gan naill ai bolard sengl neu sawl bolard mewn rhes. Mae bolardiau wedi'u huwchraddio ar Heol Ynysangharad, Pontypridd lle mae'r gerbytffordd wedi'i gostwng i ganiatáu llwybr gwastad i feicwyr.

Yn yr un modd, mae 16 rhwystr wedi'u gwaredu ar Lwybr Cwm Cynon/Llwybrau Blaenau'r Cymoedd (Llwybrau Beicio Cenedlaethol 478/46), ac mae pump ohonyn nhw wedi cael eu disodli gan naill ai bolard sengl neu bolardiau mewn rhes. Mae nifer fach o bolardiau presennol bellach yn cael eu huwchraddio, tra bod chwe rhwystr wedi'u gadael yn eu lle. Hefyd, mae chwe rhwystr ar Lwybr Cymunedol Pentre'r Eglwys wedi eu gwaredu.

Mae'r elusen cerdded a beicio Sustrans wedi canmol y Cyngor am ei waith yn y maes yma. Yn ddiweddar, rhannodd Sustrans stori’r beiciwr brwd Amanda Harris o Cross Inn a gafodd, yn 2014, ddamwain a newidiodd ei bywyd, gan arwain at barlys yn ei choes dde a’i stumog. Does dim modd iddi feicio fel yr arfer bellach, ond mae modd i Amanda feicio mewn safle 'eistedd' gan ddefnyddio treic.

Mae beicio yn rhoi rhyddid ac annibyniaeth i Amanda, a'r gallu i wneud ymarfer corff yn yr awyr agored ac ar ei phen ei hun. Fodd bynnag, mae hi'n teimlo'n rhwystredig bob tro y bydd hi'n dod ar draws rhwystr mynediad neu rwystr arall dydy olwynion y treic ddim yn ffitio drwyddo a does dim modd iddi gario neu gwthio ei beic dros rhwystr o'r fath.

Mae Amanda wedi canmol y rhwydwaith o lwybrau yn Rhondda Cynon Taf sydd erbyn hyn heb unrhyw rwystrau ac mae modd iddi deithio ar hyd Llwybr Taith Taf o'i thŷ gan deithio cyn belled â Chaerdydd neu Bontypridd. Darllenwch stori Amanda yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod y Cyngor wedi gwneud gwaith da o ran cynyddu mynediad i lwybrau cymunedol lleol. Mae pob newid yn cael ei asesu ar bob achlysur - gan sicrhau cydbwysedd rhwng y nod o gynyddu hygyrchedd a brwydro yn erbyn problemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol neu feiciau modur sy oddi ar y ffordd anghyfreithlon.

“Mae'r Cyngor yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth Teithio Llesol yn ein cymunedau gan helpu preswylwyr i gerdded neu feicio yn eu bywydau bob dydd ac i gynyddu lefelau iechyd a lles pobl.Rydyn ni nawr yn ymgynghori â thrigolion ar ddarpariaeth Teithio Llesol ar draws Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys ein dyheadau ar gyfer y dyfodol, ar ôl i aelodau'r Cabinet ddod i gytundeb ym mis Hydref - cyn cyflwyno Map Rhwydwaith Integredig wedi'i ddiweddaru i Lywodraeth Cymru yn 2021.

“Nod ein gweithgaredd diweddar wrth gael gwared ar rwystrau mynediad yw cynyddu Teithio Llesol i bawb - ac mae buddion y gwaith yma i'w gweld yn amlwg gan Sustrans yn stori Amanda. Mae'r Cyngor yn bwriadu edrych ar sut y gallwn wneud newidiadau tebyg mewn lleoliadau cymunedol eraill yn y dyfodol.”

Wedi ei bostio ar 22/01/2021