Skip to main content

Diweddariad: Cynllun Ailddatblygu YMCA Pontypridd – symud craen tŵr

Pontypridd YMCA 1

DIWEDDARIAD: 19/02/21

Mae gwaith yn mynd yn ei flaen ar gynllun ailddatblygu YMCA Pontypridd a disgwylir bydd yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni. Mae'r cam nesaf, symud craen tŵr, yn golygu bydd angen cau Stryd Morgan ddydd Sul yma (21 Chwefror).

Mae'r cynllun ailddatblygu gwerth £4.48 miliwn yn cael ei gyflawni ar y cyd gan y Cyngor, YMCA Pontypridd, Cymuned Artis a Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn adfywio'r lleoliad sydd wedi bod wrth galon Pontypridd er 1910. Dechreuodd y gwaith i'w alluogi i gael ei ddefnyddio unwaith eto yn 2020. Bydd y cynllun yn cadw Neuadd Shelley eiconig yn galon i'r adeilad a bydd hefyd yn creu lleoedd cymunedol.

Er gwaethaf heriau'r pandemig COVID-19, mae disgwyl i'r contractwr Knox & Wells orffen yr ailddatblygiad cyffrous erbyn diwedd 2021.

Cyflawnodd y cynllun gam pwysig yn ddiweddar drwy gwblhau ffrâm ddur yr adeilad. Oherwydd y cynnydd sydd wedi cael ei wneud, mae modd i ni symud y craen, sydd wedi bod yn amlwg iawn yng nghanol y safle, ddydd Sul.

O ganlyniad i hyn, bydd angen cau Stryd Morgan (A4223), rhwng ei chyffordd â Stryd Crossbrook a Stryd y Bont, rhwng 6am a 11pm ddydd Sul, 21 Chwefror (os bydd y tywydd yn caniatáu).  Bydd bysiau'n dilyn y gwyriad ond byddan nhw'n cael mynediad i'r orsaf fysiau. Bydd mynediad yn cael ei gynnal ar Stryd Morgan ar gyfer gwasanaethau brys a cherddwyr drwy'r amser.

Mae llwybr amgen i fodurwyr (i'r de o ble mae'r ffordd ar gau) ar hyd Heol Gelliwastad, Stryd Catrin, Heol Sardis, Broadway, slipffordd tua'r gogledd, Cylchfan Stryd y Bont a Stryd y Bont. I'r cyfeiriad arall, ewch yn eich blaen ar hyd Stryd y Bont, Cylchfan Stryd y Bont, slipffordd yr A470 tua'r de, Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yr A470, Broadway, Heol Sardis, System Gylchu Heol Sardis, Stryd y Felin a Stryd Catrin. Bydd y llwybrau yma wedi'u nodi'n glir ag arwyddion.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Rydyn ni'n gwybod bod pandemig COVID-19 yn cyflwyno heriau anodd iawn ar draws y sector peirianneg sifil, felly rydw i'n falch o gael y newyddion diweddaraf yma fod y cynllun i adnewyddu YMCA Pontypridd yn debygol o gael ei gyflawni'r flwyddyn yma. Mae gorffen adeiladu ffrâm ddur yr adeilad yn ddiweddar a symud y craen tŵr yn gamau pwysig yn y cynllun.

“Diolch i’r buddsoddiad sylweddol y cytunwyd arno gan y Cyngor ddiwedd 2019, ochr yn ochr â’r cyfraniad o £2.28 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae'r cynllun i ailddatblygu adeilad y YMCA wrth wraidd dyfodol cyffrous iawn i Bontypridd. Mae datblygiad Llys Cadwyn y Cyngor gerllaw bellach wedi'i gwblhau, ac mae cynlluniau pwysig eraill megis Canolfan Gelf y Miwni ac ailddatblygu'r hen Neuadd Bingo yn gwneud cynnydd. 

"Mae symud y craen o safle'r YMCA yn gofyn am gau ffordd trwy'r dydd ar 21 Chwefror am resymau diogelwch. Bydd hyn yn achosi rhywfaint o anghyfleustra lleol. Serch hynny, bydd y gwaith yn digwydd yn ystod cyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 ac ar ddydd Sul, felly dylai hyn leihau'r anghyfleustra a achosir yn sylweddol. Hoffwn i ddiolch ymlaen llaw i breswylwyr a'r sawl sy'n defnyddio'r ffordd am eu cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith yma."

Wedi ei bostio ar 19/02/21