Skip to main content

Gwaith adnewyddu a gwaith draenio ar Stryd y Taf

Ponty Bollard

Bydd y Cyngor yn cychwyn cynllun i roi bolard awtomataidd newydd yn Stryd y Taf ym Mhontypridd, ynghyd â system ddraenio newydd. Bydd y gwaith yn dechrau dros y penwythnos yma, ac yn parhau bob dydd Sul.

Bydd y cynllun yn cael gwared ar y bolard awtomataidd sydd yno ar hyn o bryd ac yn rhoi bolard newydd sbon yn ei le. Bydd y bolard newydd yn haws ac yn rhatach i'w gynnal. Mae'r Cyngor wedi penodi Alun Griffiths (Contractwyr) Cyf yn gontractwr ar gyfer y cynllun.

Bu archwiliadau daear cychwynnol ar y safle yn ystod mis Medi 2019 er mwyn paratoi ar gyfer y prif waith yn gynnar yn 2020. Cafodd y gwaith hynny ei aildrefnu oherwydd y gwaith oedd ei angen ar gyfer datblygiadau Llys Cadwyn ac YMCA Pontypridd.

Mae'r prif gynllun bellach wedi'i aildrefnu a bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod chwe shifft bob dydd Sul (rhwng 7am a 5pm) er mwyn osgoi tarfu. Y bwriad yw dechrau ddydd Sul, 18 Ebrill.

Yn ystod oriau'r gwaith, fydd dim modd i unrhyw gerbydau fynd i Stryd Taf o leoliad y bolard awtomatig (yn Stryd Traws y Nant). Bydd mynediad i gerbydau i ganol y dref yn cael ei gynnal trwy Lôn Penuel oddi ar Heol Gelliwastad. Bydd mynediad i gerddwyr gyrraedd Canol y Dref drwy'r amser.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion lleol a busnesau canol y dref am eu cydweithrediad tra bydd y cynllun hanfodol yma yn cael ei gwblhau.

Wedi ei bostio ar 16/04/21