Skip to main content

Ardaloedd Cyfleoedd Strategol yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cabinet wedi ystyried cyfleoedd i ddatblygu ardaloedd strategol ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi ledled Rhondda Cynon Taf - ac wedi cytuno i ymchwilio a datblygu prosiectau isadeiledd penodol ymhellach i ddenu buddsoddiad mewnol.

Nododd adroddiad i gyfarfod y Cabinet, a gafodd ei gynnal ddydd Iau 21 Medi, sut mae pennu prosiectau tai, cludiant ac isadeiledd allweddol yn rhoi cyfle i ni ddatgloi cyfleoedd datblygu mewn lleoliadau allweddol ledled y Sir.

Bwriad yr adroddiad yw sicrhau bod y cyfleoedd gorau yn cael eu creu er mwyn manteisio ar fentrau datblygu economaidd megis y Fargen Ddinesig a Thasglu'r Cymoedd.

Trafododd Aelodau o'r Cabinet y posibilrwydd o ddatblygu pum ardal yn y Fwrdeistref Sirol - gan gynnwys Porth Cynon, ardal ehangach Pontypridd a Threfforest, Tref Pontypridd, Coridor yr A4119, a Llanilid ar yr M4.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae'r Cabinet wedi ystyried adroddiad sy'n amlinellu'r cyfleoedd strategol yn y Fwrdeistref Sirol – ac sy'n amrywio ar sail lefel a graddfa, yn lleol ac yn rhanbarthol.

"Diben y cynnig yma yw bod yn uchelgeisiol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, gan sicrhau bod lleoliadau strategol yn barod i'w datblygu ac mae'r cynigion isadeiledd cywir yn cael eu pennu i gyflawni'r potensial sydd gan y lleoliadau yma i'w gynnig.

"Mae Cynllun Corfforaethol y Cyngor yn eglur o ran pwysigrwydd adeiladu tai newydd, pennu safleoedd adfywio a hybu safleoedd sydd â chyfleoedd cyflogaeth yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Pum Ardal Cyfleoedd Strategol wedi cael eu datblygu, yn seiliedig ar Gynllun Datblygu Lleol fel man cychwyn, yn ogystal  â nifer o ffactorau eraill – gan gynnwys y potensial ar gyfer twf rhanbarthol sylweddol, gweithgaredd economaidd diweddar a graddfa cyfle ac arwyddocâd rhanbarthol.

"Mae pob amlinelliad o'r strategaethau a lleoliadau yma yn wahanol, gan ddibynnu ar natur y cyfle. Mae'r cyfleoedd yn amrywio ar sail ffurf – p'un ai tymor hir neu dymor byr, os oes gyda nhw'r potensial i'r sector preifat adfywio a buddsoddi neu at ba lefel y mae'r angen am ymyrraeth sector preifat potensial er mwyn gwireddu'r potensial mae'r pum ardal yma yn ei gynnig, yn ein barn ni.

"Yng nghyd-destun Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Thasglu'r Cymoedd, mae'n hollbwysig bod cynnydd yn cael ei wneud i'r ardaloedd rhanbarthol pwysig yma, a hynny gyda'r potensial i greu swyddi a ffyniant yn Rhondda Cynon Taf.

"Cytunodd y Cabinet i ddatblygu cynlluniau a phrosiectau ymhellach o fewn yr Ardaloedd yma, a fyddai'n cynnwys ymgynghoriad gyda thrigolion a busnesau'r ardaloedd allweddol yma, lle bo'n briodol. Cytunodd Aelodau hefyd i ddatblygu cyfleoedd ariannu a phartneriaeth er mwyn gwireddu'n huchelgeisiau."

Wedi ei bostio ar 26/09/2017