Skip to main content

Arbedion posibl o £2.7miliwn i drefnyr uwch reolwyr

Fe allai'r Cyngor wneud cyfanswm o £2.7miliwn o arbedion i’r haen uwch-reoli os bydd y Cabinet yn cytuno mewn trafodaethau'r wythnos nesaf. 

Mae'r adroddiad cyfrinachol yn cynnig lleihau costau uwch reolwyr £750,000 eto yn sgîl ailstrwythuro swyddogaethau Prif Swyddogion am y pedwerydd tro.

Mae'r pedwerydd lleihad mewn haenau uwch reolwyr ers 2015 i gael ei drafod mewn cyfarfod o Gabinet y Cyngor ddydd Llun, 19eg Medi  ac o ganlyniad fe fyddai'r ymrwymiad a wnaed yn ystod etholiadau Llywodraeth Leol mis Mai yn cael ei gadw.

"Fe wyddom fod caledi i barhau am y dyfodol y gellir ei ragweld," meddai'r Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, "ac mae'n debyg y caiff y rhagolygon hyn eu cadarnhau pan fydd y Canghellor yn datgelu'r dyraniad arian a nodir i wasanaethau cyhoeddus Cymru yr hydref yma.

"Gan hynny, rydym ni yn hynod boenus o ymwybodol fod heriau ariannol anodd o'n blaen. O ganlyniad i hyn, mae angen i ni barhau i fod yn rhagweithiol yn ein dull ymagweddu at liniaru'r effaith ar wasanaethau rheng flaen.

"Mae ein dull ymagweddu rhagweithiol hyd yn hyn wedi sicrhau, er gwaethaf gostyngiadau ariannu sylweddol dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym ni wedi gallu parhau i fuddsoddi mewn meysydd allweddol ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf.

“Wrth i'r Cabinet baratoi ar gyfer yr heriau ariannol sydd o'n blaen, byddant yn ystyried pedwerydd cyfnod o ostyngiadau yn strwythur yr uwch reolwyr a fydd, os caiff gymeradwyaeth y Cabinet yr wythnos nesaf,  yn gwireddu cyflwyno llawer o'n hymrwymiad cyhoeddus ar y mater hwn.

"Rwyf yn bendant o'r farn rhaid inni barhau i chwilio am ffyrdd a dulliau ar gyfer gweithio mewn ffordd effeithiol o ran cost. Mae'r newidiadau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn, serch hynny, yn fwy na dim ond cyflwyno gostyngiadau pellach mewn costau; ar ben hynny, maent yn ceisio gofalu fod y Cyngor fel corff yn parhau i esblygu, nid gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon yn unig, ond wynebu'r heriau sydd o'n blaen hefyd.

" Mae'r argymhellion a gafwyd yn ceisio cryfhau capasiti corfforaethol y Cyngor i hyrwyddo gwaith adfywio a buddsoddi o'r tu allan, er enghraifft, yn eu blaen. Yn ogystal â hynny, maent yn ceisio adlewyrchu'r ffocws parhaus ar weithio'n rhanbarthol mewn llywodraeth leol.

"Ers i mi ddod yn Arweinydd yn 2014, rwyf i a'm Cabinet wedi mynd ati yn awyddus i geisio gostwng nifer yr haenau o uwch reolwyr er mwyn lliniaru effaith toriadau mewn gwariant ar ein gwasanaethau rheng-flaen. Mae'r adroddiad y bydd y Cabinet yn ei ystyried yr wythnos nesaf yn parhau â'r dull ymagweddu yma. Mae'r adroddiad yn cynnig codi cyfanswm yr arbedion hyd yn hyn i dros £2.7miliwn.

"Dyma'r pedwerydd cylch dan sylw'r Cabinet o ostwng nifer yr uwch reolwyr. Trwy gydol pob un o'r ymarferion yma rwyf i bob amser wedi dadlau fod craidd corfforaethol cryf yn hynod bwysig dros ben i gorff o faint Cyngor Rhondda Cynon Taf ac i waith cynnal gwasanaethau i'r cyhoedd.  

“Rydym ni wedi gwneud arbedion effeithlonrwydd sylweddol dros y pedair mlynedd ddiwethaf er mwyn lliniaru effaith y penderfyniad ariannu sydd wedi'i wneud yn Llundain ar ein gwasanaethau cyhoeddus lleol.  Y llynedd, cafodd Rhondda Cynon Taf ei amlygu'n annibynnol am y ffordd gost-effeithiol  mae'n gweithredu ei swyddogaethau 'swyddfa gefn' a gweinyddol. Byddai'r gostyngiadau pellach yma mewn costau rheolwyr yn cryfhau'r sefyllfa yma ymhellach. 

"Mae'r dull ymagweddu yma yn pwysleisio unwaith yn rhagor fod pob maes o wariant y Cyngor dan y chwyddwydr yn ystod y cyfnod ariannol heriol yma, er mwyn cau'r bwlch ariannol ac i sicrhau bod gwasanaethau rheng-flaen, sy'n werthfawr i'r cyhoedd, yn cael eu diogelu rhag y toriadau rydym ni'n eu hwynebu i'r sector cyhoeddus."

Mae adroddiad y Prif Weithredwr i'r Cabinet, sy'n cynnwys gwybodaeth eithriedig, yn ceisio am gymeradwyaeth y Cabinet i weithredu pedwerydd cyfnod o  ddiwygiadau arfaethedig i Strwythur Uwch Reolwyr a Swyddi Rheoli Cysylltiedig y Cyngor, sy'n golygu arwain at leihau costau rheolwyr o £776,116, gan godi cyfanswm y lleihad mewn costau yn y maes hwn i £2,700,000. Os bydd y Cabinet yn cefnogi'r strwythur arfaethedig, bydd y Cyngor a'r Pwyllgor Penodiadau yn ystyried adroddiadau cysylltiedig pellach.
Wedi ei bostio ar 15/09/17