Skip to main content

Lonydd troi i'r dde ar ffordd yr A4059, Cwm-bach

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gosod lonydd troi i'r dde pwrpasol ar ffordd yr A4059 yng Nghwm-bach. Dyma'r buddsoddiad diweddaraf er mwyn gwella llif y traffig ar goridor Cwm Cynon.

Bydd gwaith ar yr A4059, Canal Road, yn dechrau ddydd Llun, 2 Hydref, gyferbyn â Gorsaf Betrol cwmni Gulf. O ganlyniad i'r cynllun, caiff dwy lôn newydd eu gosod ar y lôn gerbyd, gan ddarparu lonydd cadw diogel i gerbydau sy'n troi i'r dde i mewn i'r orsaf betrol ac i fusnesau Marpol Vehicles a Sparesworld.

Grant gan Lywodraeth Cymru sy'n ariannu'r prosiect yma yn llawn. Ei nod yw ehangu'r lôn gerbyd i mewn i'r lonydd cerbyd presennol. Bydd hyn yn creu lle i'r lonydd newydd yng nghanol y ffordd. Bydd yn sicrhau bydd cerbydau sydd am droi i'r dde ddim yn rhwystro traffig tua'r de bellach.

Bydd llif traffig yn parhau yn y ddwy ffordd ar oriau brig traffig er mwyn lleihau tarfu hyd yr eithaf posibl. Bydd y signalau traffig a ddefnyddir ar adegau tawelach o'r dydd dan reolaeth lawn. Nod hyn yw caniatáu modd mynd i mewn i orsaf betrol cwmni Gulf a busnesau Marpol Vehicles a Sparesworld. Bydd y rhain ar agor i fusnes yn ôl yr arfer.

Disgwylir y bydd y cynllun yn cymryd chwe wythnos. Daw'r gwaith yma yn sgil archwiliadau tir a gwaith clirio a gynhaliwyd ar y safle yn gynharach eleni.

Dyma'r diweddaraf o'r cynlluniau ar ffordd brysur coridor Cwm Cynon yr A4059 er mwyn gwella llif y traffig. Daw hyn yn sgîl y gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar er mwyn gwella dynesfeydd Canal Road at Gylchfan Cwm-bach, a gosod lonydd troi.

Yn ogystal â hyn fe gynhaliwyd prosiectau #BuddsoddiadRhCT ar wahân dros y 18 mis diwethaf ger cylchfannau Siop ASDA a'r Ynys ac ar ffordd yr A4059 yn Aberpennar hefyd. Ar yr un pryd, mae cynllun blaenllaw'r Cyngor, Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar, yn parhau i fynd rhagddo, gyda'r nod o wyro traffig oddi ar ffordd yr A4059.

"Mae cynnal gwaith gwella ar goridor ehangach ffordd yr A4059 drwy Gwm Cynon yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor yma," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd. "Dros y 18 mis diwethaf, rydyn ni wedi buddsoddi yn sylweddol er mwyn gwella llif y traffig, yn enwedig ar adegau prysur.

"Bydd y cynllun diweddaraf yng Nghwm-bach yn creu lonydd troi pwrpasol ar y briffordd. Roedd hyn yn llwyddiant yng ngwaith ffordd yr A4059 ger cylchfannau Siop ASDA a'r Ynys, ac yn Aberpennar.

“Bydd y gwaith yn parhau am tua chwe wythnos. Ni fydd angen rheoli traffig ond y tu allan i oriau brig yn unig. Yn ôl ein hamserlen, bydd y gwaith yma yn dechrau ar ôl i Ffordd Mynydd y Maerdy gael ei hailagor, ac yn dilyn y gwaith gwella i Gylchfan Cwm-bach gerllaw.

"Sicrhaodd y Cyngor gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r prosiect diweddaraf yma. Dyma brawf unwaith eto fod buddsoddi mewn priffyrdd yn flaenoriaeth allweddol er budd preswylwyr Rhondda Cynon Taf a phobl sy'n ymweld â'r lle hefyd."

Wedi ei bostio ar 04/10/17