Skip to main content

Wythnos Ailgylchu 2017 - The Shed yn mwynhau llwyddiant

Yn ystod Wythnos Ailgylchu 2017 mae'r Cyngor yn dathlu bob math o ddulliau ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf. Un o lwyddiannau mwyaf diweddar y fwrdeistref yw ail-agor siop The Shed yng Nghanolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant (CRC).

Agorodd y siop tri mis yn ôl yn rhan o bartneriaeth rhwng y grŵp ailgylchu di-elw Wastesavers, Amgen Cymru a'r Awdurdod Lleol. Mae'r cynllun yn adnewyddu eitemau sy'n cael eu gadael yn y Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned. Mae'r eitemau yma'n osgoi cael eu hanfon at y safle tirlenwi ac yna'n cael eu gwerthu yn The Shed - sydd fel sêl cist barhaol.

Cafodd The Shed ei hagor yn swyddogol ar 26 Mehefin gan Terry Walton, garddwr o fri, lleol. Mae pen-blwydd tri mis y ganolfan yn glanio yng nghanol Wythnos Ailgylchu 2017, sydd yn cael ei chynnal rhwng 25 Medi a 1 Hydref. Mae'r Cyngor yn falch iawn o gefnogi'r achlysur yma trwy cynnal cyfres o achlysuron hyrwyddo a throsglwyddo neges i'w breswylwyr.

Mae ailgylchu ac ailddefnyddio deunyddiau wrth raidd cynllun The Shed. Ar ôl i weithwyr a gwirfoddolwyr adnabod eitemau y mae modd eu hailddefnyddio maen nhw'n cael eu gwirio a'u glanhau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n ddiogel ac mewn cyflwr da cyn cael eu gwerthu.

Ers iddo agor, mae The Shed wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi tyfu o ran nifer yr eitemau sy'n cael eu hail-ddefnyddio. Llwyddodd y Ganolfan dargyfeirio 2.2 tunnell o wastraff o'r safle tirlenwi mewn pum diwrnod ar ddiwedd mis Mehefin. Yn ystod ei mis llawn cyntaf yng Ngorffennaf, llwyddodd ddargyfeirio 6.6 tunnell. Llwyddodd ddargyfeirio 8.6 tunnell ym mis Awst.

Mae The Shed wedi creu un swydd llawn amser ac un swydd rhan amser. Mae'r Ganolfan o hyd yn edrych am wirfoddolwyr sy'n gallu helpu rhedeg y siop. Mae'r Ganolfan hefyd yn croesawu eitemau i'w gwerthu gan aelodau o'r cyhoedd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae The Shed wedi bod yn llwyddiannus iawn ers iddo agor ym mis Gorffennaf. Mae'r preswylwyr lleol yn hoff iawn o'r ganolfan ac mae'r dull arloesol o ailgylchu eitemau nad oes mo’u heisiau wedi creu hafan ar gyfer y rheiny sy'n chwilio am fargen.

"Mae cyfradd ailgylchu'r Cyngor wedi cyrraedd 64% am y tro cyntaf dros 12 mis ym mlwyddyn calendr 2017. Mae'r ffigwr yma'n dangos y cynnydd parhaol mae ein hymarferion ailgylchu yn gwneud. Mae'r cyfradd yma'n uwch na tharged Llywodraeth Cymru, sef 58%. Mae'r targed hwnnw'n codi i 70% erbyn 2024-25. Mae'r targed yma'n amlygu'r angen i ddod o hyd i ddulliau ailgylchu newydd. Dyma pam mae canolfan The Shed wedi bod mor llwyddiannus.

Mae silffoedd The Shed o hyd yn llawn pethau fyddwch chi byth yn meddwl eu bod nhw wedi cael eu taflu allan. Byddwch chi'n synnu faint o drysorau cudd sydd ar silffoedd y siop - mae'n werth ymweld â'r ganolfan."

Meddai Phil Hurst, Swyddog Marchnata a Datblygu ar ran Wastesavers: "Mae The Shed yn Llantrisant wedi bod yn llwyddiannus iawn. Roedd yn llwyddiant o'r cychwyn cyntaf - ar ôl i ni dderbyn tipyn bach o gyhoeddusrwydd o'r achlysur lansio.

"Mae'r siop yn ffordd o osgoi cymdeithas o ddefnyddwyr gwastraffus. Rydyn ni'n osgoi anfon eitemau i'r safle tirlenwi yn ogystal â'u hail-ddefnyddio. Mae pobl eisiau gwneud ymdrech i ail-ddefnyddio, ond beth ydych chi'n gwneud gyda'r eitemau dydych chi ddim eu heisiau? Dyma pam mae The Shed wedi bod yn llwyddiannus - mae'n cynnig ateb ar gyfer y broblem yma.

Yn ystod y ddau fis olaf ac wythnos olaf mis Mehefin, sef ein hwythnos gyntaf, llwyddodd The Shed dargyfeirio 17.4 tunnell o'r safle tirlenwi. Rydyn ni'n disgwyl i ffigyrau mis Medi fod yn uwch na mis Awst ac rydyn ni'n disgwyl y byddwn ni'n gwella wrth symud ymlaen.

"Rydyn ni'n weithgar iawn ar Facebook ac yn rhoi gwybod i'r bobl ba eitemau sy'n cyrraedd y siop. Fel arfer, mae'r eitemau wedi'u gwerthu o fewn 10 munud!

"Rydyn ni o hyd yn edrych am wirfoddolwyr. Mae'n brysur iawn yma, yn enwedig pan mae cwsmeriaid yn dod i'r siop ac rydyn ni'n derbyn rhodd ar yr un pryd. Mae'n ffordd wych o helpu pobl sy'n mwynhau sêliau cist. Mae'n amgylchedd arbennig i gwrdd â phobl newydd."

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf - gan gynnwys manylion saith Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Mae The Shed ar agor rhwng 10am a 6pm, saith niwrnod yr wythnos. Mae'r siop yng Nghanolfan Ailgylchu yn y Gymuned Llantrisant, Pant-Y-Brad Road sydd oddi wrth Heol-Y-Sarn, Parc Diwydiannol Llantrisant, CF72 8YT. Mae modd cysylltu â The Shed drwy e-bostio shed@wastesavers.co.uk.

Wedi ei bostio ar 26/09/2017