Skip to main content

Wythnos Ailgylchu 2017: Samantha Williams – Prosiect Woodland to Wearable

Yn ystod Wythnos Ailgylchu 2017, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn rhoi gwybod am bwysigrwydd ailddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, gan ddathlu'r rheiny sy'n pennu dulliau ailgylchu newydd a chreadigol.

Samantha Williams, o Bont-y-clun, yw un o'r bobl hynny. Yn rhan o'i chwrs ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, casglodd eitemau oedd wedi'u gollwng ar lwybr antur, gan eu trawsnewid yn eitemau gemwaith unigryw.

Yn ystod mis Gorffennaf, Prosiect Woodland to Wearable oedd enillydd un o gategorïau Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad y Cyngor.

Meddai hi: “Cerddais ar hyd llwybr natur yn fy milltir sgwâr, gan ddod o hyd i nifer o eitemau roedd modd eu hailgylchu. Cesglais gynifer o eitemau â phosibl, a'u cymryd i'm stiwdio.”

"Sylwais fod nifer o'r deunyddiau gwydr yn lliwgar iawn. Roeddwn i am eu hailddefnyddio, gyda'r gobaith o'u troi nhw'n rhywbeth prydferth."

Yn rhan o'r broses, ac i greu gemwaith, rhoddodd Samantha y deunyddiau yn odyn (kiln) y brifysgol, ar dymheredd o 805°C. Mae'r tymheredd uchel yn helpu i ladd bacteria.

Roedd hi hefyd am addurno'r darnau o emwaith mewn ffordd oedd yn eu cysylltu â'r llwybr. Fe ychwanegodd hi, felly, luniau o'r llwybr natur.

Ychwanegodd: "Tynnais y lluniau ar y llwybr, a'u rhoi nhw ar ddecalau, cyn eu rhoi ar gefn y gwydr.

“Roeddwn i wrth fy modd yn dod o hyd i'r deunyddiau. Des i o hyd i sawl potel yn llawn hanes o Bontypridd, Caerdydd, a'r Bontfaen.”

Tynnodd Samantha sylw at bwysigrwydd ailgylchu, a'n rhan ni yn y broses.

“Mae'n bwysig dros ben ailgylchu cymaint â phosibl," meddai. "Yn rhan o'm prosiect, helpais i i gael gwared ar nifer o eitemau oedd wedi'u taflu. Gallasen nhw fod wedi bod yn berygl bywyd i oedolion, plant a chŵn sy'n cerdded ar y llwybr bob dydd.

"Petai pawb yn gwastraffu llai o bethau, byddai'r amgylchedd yn gwella’n fawr. Mae ailgylchu wedi rhoi hwb mawr i mi, gan fy mod yn wneuthurwr sy'n defnyddio deunyddiau gwastraff. Hoffwn i helpu i greu amgylchfyd prydferth.

"Roeddwn i ar ben fy nigon yn gweld ymateb pawb i'm prosiect. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn gweld prosiectau a chyfraniad pobl eraill yn Rhondda Cynon Taf."

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae Rhondda Cynon Taf yn ailgylchu mwy nag erioed. Cafodd 64% o wastraff y sir ei ailgylchu yn 2016. Ond mae modd gwneud mwy, ac mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o ailgylchu 70% o ddeunyddiau gwastraff erbyn 2024-25. 58% yw'r targed nawr.

"Felly, mae'n bwysig dod o hyd i ffyrdd newydd o ailgylchu eitemau bob dydd. Mae prosiect Samantha yn enghraifft wych o hyn. Mae'r Cyngor yn falch i ddathlu Wythnos Ailgylchu 2017. Bydd yn lledaenu'i neges am ailgylchu.

"Mae Gwobrau Bro-garwyr Tra Mad y Cyngor yn dathlu arwyr ailgylchu'r sir. Dyma'r bobl sy'n gwneud gwir wahaniaeth, gan gyfrannu at greu cymunedau mwy glân a gwyrdd i fyw ynddyn nhw, ac i ymweld â nhw. Roedd Samantha yn enillydd haeddiannol iawn.

I nodi Wythnos Ailgylchu 2017, bydd carfan Gofal y Strydoedd y Cyngor yn mynd ar daith i gwrdd â'r cyhoedd. Bydd y garfan yn rhoi bagiau ailgylchu AM DDIM i drigolion, yn ogystal â chyngor ar sut y mae modd gwneud rhagor i'n helpu ni i ailgylchu'n well.

Gwnewch nodyn o'r dyddiadau canlynol ar gyfer Wythnos Ailgylchu 2017:

-       Dydd Llun, Medi 25 – Asda Tonypandy (10am-2pm)

-       Dydd Mawrth, Medi 26 – Asda Aberdâr (10am-2pm)

-       Dydd Mercher, Medi 27 – Tesco Glan-bad (10am-2pm)

-       Dydd Iau, Medi 28 – Dunraven Street, Tonypandy (10am-2pm)

-       Dydd Gwener, Medi 29 – Sgwâr y Llyfrgell, Aberdâr (10am-2pm)

-       Dydd Sadwrn, 30 Medi – Mill Street, Pontypridd (10am-4pm)

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i:

http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/BinsandRecycling.aspx
Wedi ei bostio ar 28/09/17