Skip to main content

Rheolau baw cŵn yn dod i rym ar 1 Hydref

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cyflwyno rheolau newydd sy'n fwy llym o ran baw cŵn. Byddan nhw'n dod i rym o'r 1 Hydref, 2017.

Yn gynharach eleni, ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion ar gynigion i gyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i fynd i’r afael â’r broblem o berchnogion cŵn anghyfrifol yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'n fater sydd wedi bod yn destun rheolaidd gan drigolion yr Awdurdod Lleol.

Yn ôl canlyniadau'r holiadur ar-lein, mae 90% o'r bobl a gwblhaodd yr holiadur yn cefnogi dull arfaethedig y Cyngor o ddelio â materion baw cŵn. Cytunodd mwy na 97% y dylai hi fod yn ofynnol i berchnogion cŵn gario bagiau neu nwyddau addas eraill i gael gwared ar faw cŵn, a nododd mwy na 93% y dylai swyddogion awdurdodedig roi cyfarwyddyd i berchenogion cŵn os bydd angen – er enghraifft, i roi ci ar dennyn.

Roedd yn amlwg i'r Cyngor bod hwn yn alwad i weithredu. Mae trigolion yn mynnu bod y Cyngor yn mynd i'r afael â'r mater.  Ers hynny, mae'r rheolau newydd ynghylch baw cŵn wedi cael eu hyrwyddo gan ymgyrch uniongyrchol ac onest y Cyngor Ewch â'r C*CH* 'da chi!

Mae'r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan Collin Smith, un o drigolion y fwrdeistref a ddioddefodd doresgyrn agored i'w goes wrth chwarae rygbi yng Nghwm Rhondda yn 15 oed, yn 1979. Chwaraewr addawol dan 15 oed i Gymru oedd Collin nes iddo ddal haint o faw cŵn ar y cae chwarae. O ganlyniad i'r haint bu raid torri’r goes i ffwrdd islaw'r pen-glin.

Trefnodd y Cyngor achlysuron codi ymwybyddiaeth trwy gydol mis Awst a mis Medi mewn parciau, caeau chwaraeon, canol trefi ac ysgolion, fel bod trigolion yn derbyn yr holl wybodaeth am y rheolau newydd. Mae Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus newydd, sy'n dod i rym o 1 Hydref, yn dweud:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi'r baw yn syth, a chael gwared arno mewn modd priodol.
  • RHAID i berchnogion cŵn fod â modd i godi'r baw (h.y. bagiau) ar bob adeg.
  • RHAID i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd gan swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi'u GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae plant a chaeau chwaraeon nodedig y mae'r Cyngor yn eu cynnal.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg mewn mynwentydd sydd wedi eu cynnal gan y Cyngor.

Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn gweithredu o 1 Hydref. Gallai perchnogion cŵn anghyfrifol wynebu dirwy uwch o £100.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Un o'r materion mwyaf cyffredin sy'n dod i sylw'r Cyngor yw brwydro yn erbyn perchnogion cŵn anghyfrifol. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn yr ymgynghoriad ynghylch y newidiadau, a ddaeth i farn unfrydol i weithredu.

“Gwrandawodd y Cyngor ar neges glir y trigolion, a bellach mae'r paratoadau wedi'u gwneud ar gyfer y rheolau newydd sy'n fwy llym ar gyfer perchnogion cŵn sy'n dod i rym ar 1 Hydref.

“Maen nhw'n cynnwys gwahardd cŵn rhag bod ar gaeau chwaraeon wedi'u marcio, mewn ysgolion ar ardaloedd chwarae i blant. Yn ogystal â gofyniad i berchnogion cŵn gludo dull addas i godi llanast cŵn pan fyddan nhw allan yn ein cymunedau. Mae'r Cyngor wedi cyflogi rhagor o swyddogion gorfodi, ac mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd ganddyn nhw. Mae gan y swyddogion yr hawl i osod dirwy o £100.

“Mae achlysuron ymgysylltu wedi targedu perchnogion cŵn yn y cymunedau lleol er mwyn sicrhau eu bod nhw'n deall beth i ddisgwyl o'r 1 Hydref.

“Mae'r Cyngor wedi dangos ei fod yn cymryd materion baw cŵn yn ddifrifol iawn, ac mae wedi cyflawni camau sylweddol er mwyn dod i drefn ar y mater."
Wedi ei bostio ar 29/09/17