Bydd nifer o gyflogwyr mawr, gan gynnwys EE a Gwasanaeth Tân De Cymru, wrth law i gynnig cymorth a gwybodaeth werthfawr iawn i bobl sy'n chwilio am swyddi yn Ffair Swyddi'r Cyngor. Bydd y Ffair Swyddi yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, ddydd Mercher 27 Medi. Mae'r achlysur yma AM DDIM.
Mae croeso i unrhyw un sydd eisiau cyngor ar sut i gyflwyno cais llwyddiannus am swydd. Bydd yr achlysur yn cael ei chynnal rhwng 10am a 7pm. Dyma gyfle arbennig i ddarpar ymgeiswyr siarad â chwmnïau sy'n recriwtio ynglŷn â'r cyfleoedd gwaith sydd ganddyn nhw i'w cynnig.
Bydd gan bob un o'r cyflogwyr sydd yn y ffair swyddi gyfleoedd am waith, gan gynnwys prentisiaethau a rhaglenni graddedig mewn nifer o sectorau, o ofal cymdeithasol i drafnidiaeth a chyllid.
Dyma enwau rhai o'r cyflogwyr a fydd yn bresennol:
- Allied Care
- Sefydliad Clwb Pêl-Droed Caerdydd
- GA Security
- Lidl
- Network Rail
- GIG
- Lluoedd Arfog
- Drivers Direct
- GE
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar Faterion Busnes y Cyngor: "Mae bron i 40 o gyflogwyr wedi cadarnhau eu presenoldeb ar gyfer y Ffair Swyddi, mae'n siŵr o adeiladu ar sail gadarn yr achlysur blaenorol a ddenodd dros 1,000 o bobl.
"Rydw i'n falch iawn o weld gynifer o gyflogwyr lleol yn cofrestru i fod yn rhan o'r Ffair Swyddi. Hoffwn i ddiolch pob un ohonyn nhw am eu cefnogaeth a'r mewnwelediad maen nhw'n eu cynnig i'r rheiny sy'n dod i'r ffair swyddi.
"Bydd yna rywbeth at ddant bawb yn y Ffair Swyddi, rydw i'n annog unrhyw un sy'n chwilio am swydd neu yrfa wahanol i ddod i'r achlysur a chasglu gwybodaeth werthfawr. Mae'n bosib y bydd yr wybodaeth yma'n gwneud gwahaniaeth yn y farchnad swyddi.
"Y Cyngor yw'r cyflogwr lleol mwyaf ac rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae rhan mewn creu cyfleoedd gwaith i breswylwyr RhCT. O ganlyniad i'n cynlluniau prentisiaeth a rhaglenni i Raddedigion mae dros 170 o bobl ifainc wedi derbyn cyfleoedd gwaith o fewn yr Awdurdod Lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
"Byddwn ni ymhlith y cyflogwyr yn y Ffair, ac rydw i'n annog unrhyw un sy'n chwilio am yrfa heriol a boddhaol i siarad â'n cynrychiolwyr yn yr achlysur."
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Ffair Swyddi, ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Events/Archive/2017/September/JobsFair.aspx ble bydd modd i chi weld rhestr lawn o'r cyflogwyr a fydd yn dod i'r achlysur.
Wedi ei bostio ar 25/09/2017