Skip to main content

Gwaith Ffordd Mynydd y Maerdy yn Mynd o Nerth i Nerth

Rydyn ni'n cwblhau gwaith strwythurol o bwys mawr er mwyn trwsio Ffordd Mynydd y Maerdy a'i darparu ar gyfer y dyfodol yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae ymgymryd â'r prosiect cymhleth yma yn gofyn am gau ffyrdd yn gyfan gwbl. Daw o ganlyniad i gyfnod hir o law ym mis Rhagfyr 2015 a effeithiodd ar ddarn 150 metr ar ben Aberdâr i'r ffordd. Mae'r gwaith sefydlogi hanfodol yma yn mynd rhagddo'n dda ers i'r gwaith gychwyn ym mis Gorffennaf.

Rydyn ni'n manteisio ar gau'r ffyrdd er mwyn ymgymryd â gwelliannau ehangach i lwybr y mynydd, diolch i fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor drwy #BuddsoddiadRhCT. Mae hyn yn cynnwys ail-wynebu ffyrdd yn llawn, trwsio a disodli waliau cynnal cerrig sych, a gwaith draenio.

Yn ogystal â hynny, mae'r cynllun yn cynnwys ystod o welliannau i ddiogelwch y llwybr yn dilyn cais llwyddiannus am Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys marciau perygl, ail-farcio ffyrdd, stydiau ffordd adlewyrchol, a mesurau i leihau'r potensial ar gyfer merddwr.

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos â'i gontractwr er mwyn cwblhau'r gwaith – ac er mwyn ailagor y mynydd i fodurwyr cyn gynted ag y bo modd. Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau, yn amodol ar dywydd da, yn ystod mis Medi.

"Mae graddfa a chymhlethdod y gwaith trwsio sydd ei angen ar Ffordd Mynydd y Maerdy yn anferthol," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, "Serch hynny mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda, er gwaethaf cyfnodau o dywydd gwael yn yr wythnosau diweddar."

"Mae'r Cyngor yn parhau i weithio'n agos â'i gontractwr er mwyn cwblhau'r prosiect heriol yma. Bydd y contractwyr yn gweithio oriau estynedig fel bod modd i'r ffordd ailagor yn ddiweddarach y mis hwn.

"Ar ôl i'r ffordd ailagor, bydd modd i ddefnyddwyr y ffyrdd weld budd y gwaith gwella pellach. Cyflawnwyd hwn drwy fuddsoddiad ychwanegol gan y Cyngor, a chymorth gan Lywodraeth Cymru, er mwyn darparu ar gyfer y dyfodol y llwybr allweddol yma.

"Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr am barhau i gydweithredu â ni, a'r ffordd yn dal ar gau o hyd. Dal i fynd rhagddo mae'r gwaith. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am y trefniadau ar gyfer ailagor y ffordd maes o law.”

Byddwn ni'n dal i gyhoeddi'r newyddion diweddaraf ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor – @CyngorRhCT ar Drydar a Rhondda Cynon Taf ar Facebook.

Wedi ei bostio ar 05/09/2017