Skip to main content

O Dalaith California i'r Pwll Glo

Yn ystod eu gwyliau blynyddol i Gymru, roedd teulu o America yn awyddus iawn i ymweld â Thaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda er mwyn olrhain eu gwreiddiau teulu yng Nghymru. 

Mae atyniad poblogaidd y Cyngor yn denu ymwelwyr o bob cwr y byd drwy gydol y flwyddyn. 

Teithiodd teulu Visser 't Hooft dros 5,000 o filltiroedd o'u cartref yn Berkeley, California a chawson nhw amser arbennig ar Daith yr Aur Du. 

Ar ôl ymchwilio i ddiwylliant Cymru, dychwelodd Mila, Erica a Jeroen i gartref eu cyndeidiau er mwyn dysgu am hanes yr ardal. 

Fe gystadlodd Jeroen, 15 oed, gyda chôr ysgol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llangollen. 

"Cawson ni amser gwych yng Nghymru, yn enwedig yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Dysgon ni gymaint o bethau ynglŷn â hanes glo a hanes Cymru fel cenedl" meddai Mila. 

"Roedd Jeroen yn gyfarwydd â'r ardal gan ei fod wedi bod i Gymru o'r blaen. Canodd am Streic y Glowyr yn 1984 a'r caledi a wynebai deuluoedd yr ardal. 

"Roedd Taith yr Aur Du yn brofiad anhygoel a bydd yr atgofion yma'n aros gyda fi am weddill fy oes. Roedd y daith yn arwyddocaol iawn, yn enwedig gan fod Jeroen wedi canu amdani ac oherwydd bod ein cyndeidiau o Dde Cymru. 

"Yn yr un modd â nifer o deuluoedd eraill, ymfudodd ein teulu i America yn y ddeunawfed ganrif er mwyn ffoi o'r tlodi yng Nghymru ar y pryd. 

"Ar ôl dod i Gymru ac ymweld â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda, rydw i'n teimlo bod gen i ddealltwriaeth well o wreiddiau fy nheulu. Roedd yn daith fythgofiadwy." 

Mae'r teulu bellach wedi dychwelyd i Berkeley, sydd ar lan dwyreiniol Bae San Francisco. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, ac sydd â chyfrifoldeb am atyniadau i ymwelwyr: "Rydyn ni'n hynod falch o gael Taith Pyllau Glo Cymru ar garreg ein drws ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae'n adrodd hanesion hudol a byd enwog y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda. 

"Cafodd glo a gafodd ei fwyngloddio yng nghymoedd De Cymru ei allforio i bedwar ban byd yn ddyddiol – miliynau o dunelli o lo. 

"Er bod y pyllau glo wedi cau ers sbel bydd hanes y diwydiant glo yn parhau i fyw. Rydw i'n falch iawn bod teulu'r Visser 't Hooft wedi mynd ag atgofion melys adref gyda nhw." 

Mae nodweddion gwreiddiol Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, sef hen lofa Lewis Merthyr, yn cynnwys yr Ystafell Lampau, Offer Pen Pwll, Offer Tŷ Weindio Bertie a Trefor ac iard y Lofa.

Mae'r atyniadau sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys Taith yr Aur Du, Caffi Bracchi, Siop Anrhegion Traddodiadol o Gymru, a'r Ardal Arddangos.

Am ragor o fanylion am Daith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, neu i gadw lle ar Daith yr Aur Du, ffoniwch 01443 682036 neu ewch i www.rhonddaheritagepark.com

Wedi ei bostio ar 02/10/17