Skip to main content

Myfyrwyr ffilm â llawer i'w ddathlu

Mae nifer o bobl ifainc Rhondda Cynon Taf â diddordeb mewn gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm. Cyn bo hir bydd cyfle gyda nhw i ddangos eu gwaith yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru.

Bydd prosiect haf blynyddol cwmni It's My Shout Production yn dod i ben gydag achlysur 'Carped Coch' ym Mae Caerdydd ddydd Sul, 10 Medi.

Bob blwyddyn, mae cwmni It's My Shout Production yn cynhyrchu ffilmiau byr i BBC Cymru, S4C, Llywodraeth Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae hyn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd i bobl ifanc yn y diwydiannau creadigol.

Cafodd y prosiect ar gyfer 2017 ei lansio ym Mhontypridd ym mis Mawrth. Daeth dros 30 o bobl ifainc Rhondda Cynon Taf at ei gilydd, gydag eraill o bob rhan o'r De, i weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant er mwyn cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant: "Mae yna nifer o bobl dalentog yn ein cymunedau ni sydd eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiant teledu a ffilm. Mae It's My Shout yn rhoi cyfle gwych iddyn nhw arddangos eu doniau.

"Eleni, mae mwy o weithwyr dan hyfforddiant o Rondda Cynon Taf wedi bod yn rhan o'n cynlluniau ffilm nag erioed o'r blaen. Mae It's My Shout yn parhau i gydnabod doniau artistig a chreadigol ein pobl ifainc.

"Gyda chefnogaeth y Cyngor a mentrau ClymuCelf, mae It's My Shout wedi agor nifer o ddrysau ar gyfer pobl ifainc yr ardal ers nifer o flynyddoedd. Mae nifer o weithwyr dan hyfforddiant wedi symud ymlaen at yrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant."

Treuliodd arbenigwyr y diwydiant yr haf yn rhannu eu profiadau, sgiliau a'u hyder gyda gweithwyr dan hyfforddiant ac maen nhw'n parhau i fod yn angerddol dros fagu, datblygu a darganfod talent newydd.

Ymhlith yr actorion ifainc sy'n chwarae rôl flaengar yn It's My Shout 2017 yw gweithwyr dan hyfforddiant Rhondda Cynon Taf James Owen (Lawr a Lan), Victoria Owen (Closure), Chloe Cooper (Peggy) a Phillip Jones (The Package).

Mae aelodau'r cast cynhaliol o'r ardal yn cynnwys India Lloyd Evans, Shaun David Evans, Ieuan Matthews, Alison Kirby, Huw Williams, Megan Sawyer a Kirsten Roberts.

Roedd Ieuan Matthews hefyd yn rhedwr ar gyfer ffilmiau byr Rory Romantic, The Package a Faces.

Caiff It's My Shout ei gefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o ClymuCelf, partneriaeth allweddol rhwng gwasanaethau celfyddydau yr awdurdod lleol yn y Fwrdeistref Sirol, Caerffili, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Yn ogystal â rolau actio, mae gweithwyr dan hyfforddiant hefyd wedi cael cyfle i weithio mewn rôl cynhyrchu megis rolau camera a sain yn ogystal â rolau yn adrannau gwisg a gwallt a cholur.

I fod yn rhan o gynlluniau It's My Shout yn y dyfodol, ewch i www.itsmyshout.co.uk neu ffonio 01656 858187.

Wedi ei bostio ar 07/09/2017