Skip to main content

Tyrfa yn ymgynnull i Gefnogi'r Gwarchodlu Cymreig

Daeth cannoedd o bobl at ei gilydd ar strydoedd Pontypridd ac ym Mharc Coffa Ynysangharad er mwyn dathlu Gorymdaith Ryddid y Gwarchodlu Cymreig.

Dyfarnodd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei Rhyddid i'r Gwarchodlu Cymreig yn 2013. Dyma'r anrhydedd mwyaf y mae modd i unrhyw awdurdod lleol ei roi, ac mae'r Gwarchodlu'n dychwelyd yma yn aml.

Man cychwyn yr Orymdaith oedd y safle seindorf yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad, lle croesawodd Y Cynghorydd Andrew Morgan, sef Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, bawb i'r achlysur.

Wedyn, ymdeithiodd y Gatrawd o amgylch y parch, cyn gadael drwy'r brif gât a pharhau â'r orymdaith ar hyd Taff Street.

Chwifiodd y cyhoedd eu baneri ar y stryd wrth i'r Gwarchodlu Cymreig ymlwybro yn ôl at Barc Ynysangharad, drwy'r fynedfa ar Taff Street. Gorymdeithiodd heibio'r gofeb i Evan a James James, sef cyfansoddwyr yr anthem genedlaethol, wrth ddychwelyd at y safle seindorf.

Yn ystod yr achlysur, cyflwynodd un o brif atyniadau Rhondda Cynon Taf, sef Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, lamp glöwr i'r Gwarchodlu.

Dyfarnodd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei Rhyddid i'r Gwarchodlu Cymreig yn 2013 er mwyn cydnabod gwaith y Gatrawd a'i chysylltiadau â'r ardal.

Ar hyn o bryd, mae'r Gwarchodlu Cymreig yn paratoi ar gyfer gweithrediadau dramor y flwyddyn nesaf. Dyma gyfle prin i'w weld unwaith eto yng Nghymru cyn iddo ymadael â'r Deyrnas Unedig.

Dywedodd y Cynghorydd Maureen Webber, sef Dirprwy Arweinydd y Cyngor: "Rydw i'n falch iawn fod Y Gwarchodlu Cymreig wedi cael croeso cynnes yn ôl i'n Bwrdeistref Sirol ar gyfer eu Gorymdaith Ryddid. Mae hyn eto yn dathlu cydberthynas Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf â'r Gwarchodlu Cymreig, ac yn ei atgyfnerthu ymhellach.

"Roedd cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref Sirol i'r Gwarchodlu yn 2013 yn anrhydedd enfawr i ni, ac rydyn ni'n falch iawn o weld y Gatrawd yn dathlu'r rhyddid yma.

"Mae gan y Gwarchodlu Cymreig a'r Fwrdeistref Sirol bartneriaeth hanesyddol, ac mae llawer o'n trigolion wedi ymuno â'r Gatrawd. Un o'r rheiny oedd y Sarsiant Robert Bye, sef y cyntaf o'r Gatrawd i ennill y Groes Fictoria am ei ddewrder ar faes y gâd.

"Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf ymhlith yr Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i lunio Cyfamod y Lluoedd Arfog. Llwyddodd hyn i atgyfnerthu ein perthynas â'r Gymuned Lluoedd Arfog. 

"Oherwydd ymrwymiad parhaus y Cyngor i'w Gymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys aelodau presennol a blaenorol, rydyn ni wedi ennill Gwobr Aur uchel ei pharch o'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Wedi ei bostio ar 15/09/17