Skip to main content

Y Cyngor yn Croesawu Prentisiaid a Graddedigion

Mae 45 o bobl ifainc ar fin dechrau eu gyrfaoedd â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r cynlluniau Prentisiaeth a rhaglenni graddedigion diweddaraf.

Rydyn ni wedi creu 129 o leoliadau Prentisiaeth ers 2012, ac mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth ar gyfer pobl ifainc Rhondda Cynon Taf.

Mae Cynllun Prentisiaeth a Rhaglen i Raddedigion y Cyngor wedi denu canmoliaeth genedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf sy'n cydnabod dulliau cadarnhaol sy'n cael eu mabwysiadu gan yr Awdurdod wrth ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr lleol.

Mae'r 45 person yn cynnwys 33 prentis newydd a fydd yn gweithio yn un o adrannau amrywiol y Cyngor gan gynnwys Cyfrifon, Gofal y Strydoedd, TG, Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd y 12 swyddog graddedig yn dechrau'u gyrfaoedd yn adrannau Hamdden, Ysgolion yr 21ain Ganrif, Mynediad a Chynhwysiant, a Gofal i Gwsmeriaid. Dyma sut mae RhCT yn hyfforddi a pharatoi rheolwyr y dyfodol.

Bydd pum gweithiwr dan hyfforddiant ychwanegol hefyd yn dechrau gyda'r Awdurdod yn rhan o Raglen Cam i'r Cyfeiriad Cywir. Mae'r rhaglen yn cynnig hyfforddeiaeth taledig i bobl ifainc sy'n gadael gofal, drwy brofiad gwaith a hyfforddiant mewn amrywiaeth o wasanaethau'r Cyngor.

Meddai'r Dirprwy Arweinydd, y Cyngh. Maureen Webber: "Mae bron 130 o bobl ifainc wedi elwa o'r rhaglenni cyflogaeth ar gyfer prentisiaid a graddedigion. Rydw i'n falch iawn o weld 45 person arall yn dechrau eu gyrfaoedd gyda ni yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.

"Mae'r cyfleoedd yma'n cynnig profiad gwerthfawr iawn i'r ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer bywyd gweithiol iachus trwy ennill cymwysterau ac elwa o ddatblygu personol parhaol.

"Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cyfleoedd i bobl ifainc yr ardal. Er mwyn atgyfnerthu hyn, rydyn ni wedi ymrwymo i greu o leiaf 150 o leoedd prentisiaeth a graddedig yn ystod y cyfnod yma. Mae'r ffaith bod y mwyafrif o bobl sydd wedi cwblhau rhaglenni gyda ni wedi symud ymlaen at yrfa barhaol gyda'r Cyngor yn dyst i ansawdd a llwyddiant ein cynlluniau.

"Mae'r llwyddiant yma'n golygu bod ein mentrau yn derbyn canmoliaeth cenedlaeth oherwydd ein dulliau o ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i breswylwyr Rhondda Cynon Taf."

Wedi ei bostio ar 07/09/17