Skip to main content

Cabinet i drafod mesurau rheoli cŵn Parc Aberdâr yn dilyn ymgynghoriad

Bydd Aelodau o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf yn trafod adroddiad yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ynghylch mesurau rheoli cŵn ym Mharc Aberdâr.

Roedd holiadur ar-lein yn rhan o'r ymgynghoriad a oedd yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â a ddylai gofyniad i berchenogion gadw eu cŵn ar dennyn gael ei gynnwys mewn Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Cafodd achlysur ymgysylltu ei gynnal yn y parc ar 16 Awst, er mwyn i drigolion leisio eu barn.

Cytunodd 298 (82.5%) o 361 person a lenwodd yr holiadur y dylai perchenogion gadw eu cŵn ar dennyn yn y parc. Ar y llaw arall, dywedodd 60 (16.6%) ohonyn nhw na ddylai fod gofyniad i berchenogion gadw eu cŵn ar dennyn, ac atebodd 3 pherson (0.8%) nad oedden nhw'n gwybod.

Cytunodd y rhan fwyaf o bobl ar Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 ar gyfer unrhyw berchennog sy'n mynd yn groes i'r Hysbysiad arfaethedig.

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar ôl i'r Cyngor gyhoeddi'i fesurau newydd i fynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol o 1 Hydref. Cafodd y mesurau yma eu hyrwyddo drwy ymgyrch baw cŵn y Cyngor.

Mae RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn cael eu cyflogi, a bydd hawl gyda nhw i roi dirwyon MWY (£100). Mae RHAID i berchenogion cŵn hefyd ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig – gan gynnwys rhoi ci ar dennyn mewn man cyhoeddus.

Cafodd yr ymgynghoriad ynghylch Parc Aberdâr ei gynnal yn dilyn adborth Cynghorwyr lleol, a nododd y gefnogaeth gref o blaid cadw at reol gyfredol y parc – sy'n dyddio'n ôl i ddeddf yn 1866 – sy'n nodi bod rhaid i gŵn gael eu cadw ar dennyn ar bob adeg.

Bydd y Cabinet yn ystyried adborth yr ymgynghoriad mewn cyfarfod ar 28 Medi.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Lles: "O ganlyniad i hanes unigryw Parc Aberdâr sy'n dyddio'n ôl i dros 150 o flynyddoedd, ac adborth Cynghorwyr lleol mae'r Cyngor wedi'i gasglu, mae ymgynghoriad pellach ynghylch y mater dan sylw wedi cael ei gynnal.

"Bydd y mesurau baw cŵn llymach newydd yn dod i rym ar 1 Hydref, ac maen nhw wedi cael eu croesawu ers iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Dyma ymateb y Cyngor i gais trigolion i fynd i'r afael â'r broblem yma."

Os bydd y Cabinet yn cytuno i gadw'r rheolau cyfredol ym Mharc Aberdâr, bydd y gofyniad i ddefnyddwyr y parc gadw eu cŵn ar dennyn ar bob adeg yn parhau o 1 Hydref, wrth i'r mesurau baw cŵn ehangach ddod i rym.

Wedi ei bostio ar 26/09/17