Skip to main content

Cynllun peilot – Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref

Bydd y Cabinet yn ystyried cyflwyno Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref er mwyn cynorthwyo masnachwyr a landlordiaid i wella blaenau eiddo canol tref.

Bwriad cynllun arfaethedig y Cyngor yw cael effaith gadarnhaol ar yr olygfa stryd er mwyn creu amgylcheddau canol tref mwy deniadol a bywiog – ac, yn ei dro, hyrwyddo buddsoddi sector preifat yn y stryd fawr.

Bydd Aelodau'r Cabinet yn ystyried y cynnig ddydd Mawrth, 19 Medi, ac mae'n bosibl y gallen nhw gytuno i gynllun peilot un flwyddyn drwy fuddsoddiad o £50,000 gan y Cyngor.

Byddai'r cynllun yn cael ei roi ar brawf mewn rhaglen beilot i ddechrau yn Ardaloedd Manwerthu Aberpennar a Thonypandy, cyn cael ei gyflwyno ym mhob canol tref Rhondda Cynon Taf.

Byddai'r cynllun yn caniatáu i fasnachwyr a landlordiaid, gan gynnwys rhai eiddo gwag, gyflawni mân waith gwella a chadw – gan gynnwys paentio, araenu powdr ar gloriau, a gwaith trwsio.

Byddai gofyn i'r gwaith gael ei gyflawni gan gontractwr dibynadwy, a byddai'r cynllun yn cyfrannu mwyafswm o 75% tuag at gostau cymwys, gydag uchafswm grant o £1,000. Mae'n bosibl y bydd grant pellach o £300 (mwyafswm cyfraniad uchaf o 75%) ar gael hefyd, lle mae angen llogi sgaffaldiau neu sgip er mwyn cyflawni'r gwaith.

Os cytunir ar hynny, byddai cyfle i eiddo canol tref yn Nhonypandy ac Aberpennar wneud cais, a châi pob cais ei asesu ar sail y cyntaf i'r felin. Does dim terfyn amser ar gyfer cyflwyno cais. Câi ceisiadau eu cyfyngu i un fesul pob eiddo.

"Bydd y Cabinet yn ystyried y Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref yn eu cyfarfod nesaf," meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai, "ac os cytunir ar hynny fe gaiff y cynllun peilot ei ddechrau yn Aberpennar a Thonypandy, yn sail i benderfyniad ynghylch p'un a ddylid ymestyn y Cynllun ai peidio.

"Mae cyflwyno gwelliant canol trefi yn flaenoriaeth ar gyfer y Cyngor yma, ac mae ystod o fentrau eisoes wedi cychwyn er mwyn hyrwyddo hyn.

“Yn gynharach eleni, cyflwynodd y Cyngor barcio am ddim yn Nhonypandy, y Porth, ac Aberpennar, a lleihau costau parcio yn Aberdâr a Phontypridd er mwyn annog rhagor o bobl i fynd i ganol ein trefi. Yn y cyfamser, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cynlluniau i adolygu symudiadau cerbydau a cherddwyr yng Nghanol Tref Tonypandy, yn dilyn sylwadau gan Gynghorwyr, preswylwyr, trigolion, a masnachwyr lleol.

"Os cytunir ar hynny, bydd buddsoddiad £50,000 y Cyngor i'r Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref yn rhoi cychwyn i'r cynllun. Byddai modd ei ledaenu yn y dyfodol i ganol trefi eraill."

Wedi ei bostio ar 18/09/2017