Skip to main content

Cabinet yn cytuno i gadw at y mesurau rheoli cŵn presennol ym Mharc Aberdâr

Mae Aelodau o'r Cabinet wedi cytuno i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) sy'n nodi bod rhaid i berchenogion gadw eu cŵn ar dennyn ar bob adeg ym Mharc Aberdâr.

Mewn cyfarfod ar 28 Medi, trafododd y Cabinet adroddiad ynghylch mesurau rheoli cŵn yn y parc, yn dilyn ymgynghoriad â thrigolion lleol a defnyddwyr y parc. Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal yn dilyn adborth Cynghorwyr lleol, a nododd y gefnogaeth gref o blaid cadw at reolau presennol y parc – sydd wedi bod mewn grym ers dros 150 o flynyddoedd.

Mae'r Cyngor yn cyflwyno mesurau baw cŵn llymach newydd o 1 Hydref, wedi'u gorfodi drwy Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a'u hyrwyddo drwy ymgyrch Ewch â'r C*ch* 'da chi!.

O ganlyniad i hyn, RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd RHAGOR o swyddogion gorfodi yn cael eu cyflogi, a bydd hawl gyda nhw i roi dirwyon MWY (£100).  Mae RHAID i berchenogion cŵn hefyd ddilyn cyfarwyddyd Swyddog Awdurdodedig – gan gynnwys rhoi ci ar dennyn mewn man cyhoeddus.

Byddai'r Gorchymyn wedi disodli deddf leol 1866 ar gyfer Parc Aberdâr, sy'n sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn ar bob adeg. Er hynny, penderfynodd y Cyngor ymgynghori ymhellach ynghylch y mater o ganlyniad i gefnogaeth leol amlwg o blaid cadw'r rheolau presennol, ac amgylchiadau hanesyddol unigryw'r ddeddf leol.

Roedd holiadur ar-lein yn rhan o'r ymgynghoriad a oedd yn gofyn am farn trigolion, ac awgrymiadau o ran lefel y ddirwy ar gyfer perchenogion sydd ddim yn cydymffurfio. Roedd gan drigolion gyfle i leisio'u barn mewn achlysur yn y parc ar 16 Awst.

Cytunodd 298 (82.5%) o 361 person a lenwodd yr holiadur y dylai perchenogion gadw eu cŵn ar dennyn yn y parc.  Hefyd, cytunodd 77.3% o berchenogion cŵn a lenwodd yr holiadur â'r cynnig y dylai perchenogion cŵn gadw eu cŵn ar dennyn ym Mharc Aberdâr.

Cytunodd y rhan fwyaf o bobl ar Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 ar gyfer unrhyw berchennog sy'n mynd yn groes i'r Hysbysiad arfaethedig.

Ar ôl ystyried adborth yr ymgynghoriad, cytunodd y Cabinet ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar wahân o ran mesurau rheoli cŵn ym Mharc Aberdâr yn benodol. Bydd raid i ddefnyddwyr y parc gadw'u cŵn ar dennyn ar bob adeg o 1 Hydref, wrth i'r mesurau baw cŵn ehangach ddod i rym.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Lles: "Mae'r Cyngor yn cyflwyno mesurau baw cŵn newydd o 1 Hydref, 2017 i fynd i'r afael â pherchenogion cŵn anghyfrifol ledled y Fwrdeistref Sirol ac i sicrhau bod ein strydoedd, parciau a chefn gwlad yn ardaloedd glân ar gyfer ein trigolion a'n hymwelwyr.

"Er bod y mesurau newydd wedi cael eu croesawu, nododd  Cynghorwyr Lleol gefnogaeth gref defnyddwyr sy'n mynd i Barc Aberdâr yn rheolaidd o blaid cadw at reolau presennol y parc ynghylch cadw cŵn ar dennyn.

"Dyma reol sy'n dyddio'n ôl dros 150 o flynyddoedd mae defnyddwyr sy'n mynd i'r parc yn rheolaidd yn gyfarwydd â hi - ac maen nhw'n disgwyl i bobl eraill gadw ati hefyd. Mae'n sefyllfa unigryw o'i chymharu â pharciau cyhoeddus eraill y Fwrdeistref Sirol, a dyma'r rheswm i'r Cyngor benderfynu ymgynghori ymhellach gyda thrigolion lleol.

"Dangosodd yr ymgynghoriad y gefnogaeth amlwg o blaid cadw'r rheolau presennol ym Mharc Aberdâr, a chafodd ei hadlewyrchu ar ffurf deiseb gyda dros 1,000 o lofnodion trigolion lleol. Cytunodd y Cabinet ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus fydd yn cadw'r rheolau presennol ym Mharc Aberdâr a pharhau i fod mewn grym o 1 Hydref."

Wedi ei bostio ar 29/09/2017