Skip to main content

Cyhoeddiad - Ffordd Mynydd y Maerdy

Bydd y gwaith ar Ffordd Mynydd y Maerdy wedi'i gwblhau erbyn 27 Medi wrth i waith hanfodol a sylweddol trwsio'r tirlithriad ddod i ben.

Drwy weithio'n agos â'r contractwr, mae'r Awdurdod Lleol wedi sicrhau bod y gwaith yn parhau i symud yn ei flaen ar y cynllun cymhleth yma er mwyn ail-agor y ffordd ym mis Medi. Dyma'r targed a gafodd ei bennu cyn i'r gwaith ddechrau.

Roedd ymgymryd â'r prosiect cymhleth yma i sefydlogi'r tir yn golygu cau'r ffordd yn gyfan gwbl. Daw hyn yn dilyn tirlithriad a achoswyd gan law ym mis Rhagfyr 2015. Effeithiodd hyn ar ddarn 150m o dir ar ochr Aberdâr y ffordd.

Rydyn ni'n manteisio ar gau'r ffordd er mwyn ymgymryd â gwelliannau ehangach i lwybr y mynydd, diolch i fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor drwy #BuddsoddiadRhCT. Mae hyn yn cynnwys gosod wyneb newydd ar ddarn 6km o'r ffordd, trwsio a disodli waliau cynnal cerrig sych, a gwella'r system ddraenio.

Yn ogystal â hynny, mae'r cynllun yn cynnwys ystod o welliannau i ddiogelwch y llwybr yn dilyn cais llwyddiannus am Grant Diogelwch Ffyrdd Lleol Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys marciau perygl, ail-farcio ffyrdd, stydiau ffordd adlewyrchol, a mesurau i leihau'r potensial ar gyfer merddwr.

Ar hyn o bryd, mae gwaith yn parhau i wella'r system ddraenio a gosod pyst concrid dur. Mae rhwystrau diogelwch newydd wedi cael eu gosod, ac mae gwaith gosod wyneb newydd ar y llwybr bwysig yma wedi dechrau ar ochr y Maerdy.

Tra bydd y mwyafrif o'r gwaith wedi'i orffen erbyn 27 Medi, mae'n bosib y byddwn ni'n gosod goleuadau traffig dros dro er mwyn i'r ffordd ail-agor cyn gynted ag sy'n bosib wrth i'r gwaith ar y Briffordd gael ei gwblhau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd: "Mae eisiau sylweddoli graddfa a chymhlethdod y gwaith a oedd angen ei gwblhau er mwyn diogelu'r ffordd. Mae'n beth gadarnhaol y bydd y gwaith priffyrdd yma'n cael ei gwblhau erbyn 27 Medi.

"Rydw i'n siwr y bydd y rheiny sy'n defnyddio'r porth yma rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda yn aml yn gwerthfawrogi'r newyddion yma. Byddan nhw'n sicr ein bod ni'n gwneud ein gorau glas agor y ffordd yma cyn gynted ag sy'n bosib - hyd yn oed os yw hyn yn golygu gosod mesurau rheoli traffig dros dro er mwyn i waith ymylol gael ei gwblhau oddi ar y briffordd.

"Roedd cau'r ffordd yn gyfan gwbl er mwyn cwblhau gwaith sefydlogi'r tirlithriad wedi caniatâu i'r Cyngor ddarparu gwelliannau sylweddol, ehangach er budd defnyddwyr y ffordd. Mae'r gwaith yma wedi cynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd, fel y cwblhawyd ar Ffordd Mynydd y Rhigos yn gynharach yn y flwyddyn.

"Hoffwn i ddiolch i'r preswylwyr am eu cydweithrediad parhaol tra bod y ffordd ar gau. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi manylion pellach ynglyn â threfniadau i ail agor y ffordd yn y man."

Wedi ei bostio ar 18/09/2017