Skip to main content

Cae Chwarae 3G Tonyrefail Ar Agor

Y cae chwaraeon 3G newydd-sbon yn Nhonyrefail yw'r cyfleuster diweddaraf i gael ei gwblhau, wrth i'r Cyngor barhau i fuddsoddi yng nghyfleusterau awyr agored y sir. 

Bydd y cyfleuster yma, a gafodd ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor, drwy gynllun #buddsoddiadRhCT, a Rhaglen Addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn cael ei ddefnyddio gan ddisgyblion yn ystod y dydd. Bydd y cyfleuster ar gael i glybiau chwaraeon a'r gymuned ehangach gyda'r nos ac ar benwythnosau. 

Mae'r gwaith gwerth £44miliwn ar yr Ysgol Gymunedol newydd yn mynd rhagddo'n dda. Mae hyn rhan o raglen Ysgolion yr 21ain y Cyngor ar gyfer Cwm Rhondda a Thonyrefail. 

Bydd Ysgol Gyfun Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Tonyrefail yn cyfuno i ddarparu addysg i blant 3-19 oed ar safle cyfredol yr Ysgol Gyfun ar ôl i'r gwaith orffen. 

Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar Ganolfan Hamdden Tonyrefail hefyd er mwyn darparu cyfleusterau parcio ychwanegol, ystafelloedd newid diogel a dosbarthiadau addysg gorfforol ar gyfer disgyblion. 

Bydd y dull arloesol o rannu'r cyfleusterau o fudd i'r disgyblion a'r gymuned gyfan. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r Cae 3G newydd a'r cyfleusterau gwell yn dyst i ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn Hamdden er budd ei breswylwyr a'r clybiau chwaraeon. 

"Trwy ddarparu'r cyfleuster 3G yma, a thrwy wella'r ganolfan hamdden, rydyn ni wedi llwyddo isicrhau bod y gymuned ehangach yn elwa ar y buddsoddiad sylweddol yma i Ysgol Gymuned Tonyrefail. 

"Roeddwn i ac Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Andrew Morgan, wedi ymrwymo i fodloni anghenion clybiau chwaraeon y Fwrdeistref Sirol ar ôl cwrdd â nhw.  Mae ein buddsoddiad parhaus i gaeau 3G yn dangos ein bod ni'n benderfynol o gyflawni'r ymrwymiad yma."
Mae gan y cyfleuster pob tywydd newydd sbon yma ffens o'i gwmpas a llifoleuadau Mae modd i'r gymuned gyfan ddefnyddio'r cyfleuster yma. 

Cysylltwch â Chanolfan Hamdden Tonyrefail i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â defnyddio'r cae 3G drwy ffonio 01443 670578 neu drwy e-bostio CHTonyrefail@rctcbc.gov.uk 

 

Wedi ei bostio ar 06/10/2017