Skip to main content

Diolch am Roi i Binc

Cafodd siec am £11,000 ei chyflwyno i elusen Rhoi i Binc, un o'r dewis elusennau fu’n cael cymorth Cyngor Rhondda Cynon Taf yn 2016/17. 

Oherwydd haelioni gwych aruthrol Aelodau o'r Cyngor a phreswylwyr lleol, roedd modd casglu cryn gyfraniad drwy lu o achlysuron a mentrau codi arian. 

Roedd elusen Rhoi i Binc yn un o ddewis elusennau Maer Rhondda Cynon Taf y flwyddyn ddiwethaf, y Cynghorydd Rhys Lewis. Derbyniodd gefnogaeth y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, ac Aelodau a staff y Cyngor hefyd. 

Cynhaliwyd achlysuron codi arian drwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y rhain roedd Her y Tri Chopa, a diwrnod llwyddiannus 'Troi Cwm Taf yn Binc' ar 14eg Hydref. 

Troi'n binc am y diwrnod wnaeth llawer o adeiladau eiconig y Cyngor, megis Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty; Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda; Theatr y Colisëwm; a Theatr y Parc a'r Dâr. Bu hyn yn fodd i godi ymwybyddiaeth ac i gasglu'r arian roedd mawr angen amdano. Aiff yr arian at sefydlu Uned Gofal Canser y Fron Arbenigol ar gyfer Cwm Taf, i’w sefydlu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. 

Elusen Rhoi i Binc a drefnodd yr ymgyrchu, gyda chymorth y Cyngor, a phreswylwyr Rhondda Cynon Taf. Cafodd y rhain eu hannog i wisgo dillad pinc a chodi cymaint o arian ag a fyddai'n bosibl. Yn ogystal â hyn i gyd, bu gweithleoedd ac ysgolion hefyd yn rhoi cefnogaeth i 'Ddiwrnod Troi Cwm Taf yn Binc.’ 

"Gwaetha'r modd, mae llawer ohonom yn adnabod pobl wedi'u heffeithio gan ganser y fron yn ystod eu bywydau," meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf "Bydd y cyfraniad hwn gan Gyngor a phreswylwyr Rhondda Cynon Taf yn cynorthwyo elusen Rhoi i Binc i gefnogi datblygu Uned Gofal Canser y Fron arbenigol o'r radd flaenaf yn Rhondda Cynon Taf. 

"Testun balchder i'r Cyngor yw'r gefnogaeth i ymdrechion elusen Rhoi i Binc i godi arian. Rwyf wrth fy modd fod ein hymdrechion wedi cyfrannu tuag at gyrraedd targed £250,000. 

“Hoffwn manteisio ar y cyfle yma i longyfarch Clare a pawb fu'n ymwneud ag elusen Rhoi i Binc am eu cyflawniad. Bydd y cyfleuster a ddaw yn sgîl yr arian yma o fudd enfawr i gleifion canser y fron o Rondda Cynon Taf a'r tu hwnt.” 

"Bob blwyddyn," meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant, a Lles, a chyn-Faer Rhondda Cynon Taf "bydd Maer Rhondda Cynon Taf yn pennu nifer o achosion elusennol i'w cefnogi ac i godi arian iddynt yn ystod y flwyddyn yn y swydd."  

"Ar ôl i mi gwrdd â Clare Smart, Cadeirydd elusen Rhoi i Binc, roeddwn i'n benderfynol y câi'r elusen yma fy nghefnogaeth yn ystod fy mlwyddyn i fel Maer.  

"Cawsom ymateb gwyrch i’n galw i godi arian. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am y cymorth anhygoel. Bu hyn yn fodd i ni wneud y cyfraniad gwych yma o £11,000 i elusen Rhoi i Binc. 

"Mae elusen Rhoi i Binc yn anhygoel o ddiolchgar," meddai Clare Smart, sylfaenydd elusen Rhoi i Binc, " i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac i'r cymunedau anhygoel yma hefyd. Mae ein cymunedau, gyda'r Cynghorwyr Webber a Lewis yn arwain, wedi chwarae rhan fawr wrth ein cynorthwyo i gyrraedd ein targed. 

"Yn sicr ddigon, mae Rhondda Cynon Taf gyfan wedi cefnogi ein gwaith codi arian i'r carn." 

Hoffech chi gael gwybod rhagor am elusen Rhoi i Binc? Hoffech chi ddal i godi arian er mwyn cynorthwyo'r elusen? Croeso i chi ymweld ag  www.givingtopink.co.uk

Wedi ei bostio ar 24/10/17