Skip to main content

Adroddiad Cynnydd – Ailddatblygu Dyffryn Taf

Mae Cabinet wedi derbyn adroddiad yn cynnig yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd gwych y prosiect enfawr o ailddatblygu Dyffryn Taf ym Mhontypridd. Mae'r gwaith adeiladu ar y trywydd iawn i ddechrau yn gynnar yn 2018.

Daeth yr Awdurdod Lleol yn berchennog ar safle Dyffryn Taf ym mis Mawrth 2015, yn dilyn nifer o gynlluniau aflwyddiannus gan y sector preifat i adnewyddu'r ardal lle bu'r hen ganolfan siopa, The Precinct, yn sefyll. Bydd prosiect defnydd cymysg ar gyfer swyddfeydd yn bennaf mewn tri adeilad nodedig. Mae'r gwaith adeiladu yn barod i gychwyn mewn ychydig fisoedd.

Daeth un o lwyddiannau mwyaf y cynllun ym mis Mawrth 2017 pan gyhoeddodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, byddai'r adeiladau newydd yn gartref ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Bydd Llyfrgell newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, Canolfan IBobUn Pontypridd a chyfleuster ffitrwydd newydd yn symud i'r safle.

Ar 28 Medi, cafodd Cabinet adroddiad yn nodi holl gynnydd y prosiect, a chymeradwyodd yr Aelodau gamau nesaf yr ailddatblygiad.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: Trafododd Aelodau o'r Cabinet yr adroddiad, gan nodi'r cynnydd rhagorol yn cael ei wneud wrth i'r prosiect fynd rhagddo gyda bwriad ei gwblhau yn 2019. Mae'r neges yn glir - mae'r prosiect mawr yma'n datblygu'n dda.

"Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi cyrraedd sawl carreg filltir sylweddol, gan gynnwys dymchwel y safle, penodi contractwr ac, yn fwyaf diweddar, rhoi caniatâd cynllunio llawn. Bydd y garreg filltir nesaf yn gweld y gwaith adeiladu yn cychwyn ar y safle strategol. Mae hyn wedi bod yn uchelgais hirdymor i drigolion a busnesau ym Mhontypridd.

“Bydd cwblhau'r gwaith ail-ddatblygu ar safle Dyffryn Taf yn trawsnewid yr hyn sydd gan Bontypridd i'w gynnig yn fasnachol. Yn ogystal â hyn, bydd swyddi'n cael eu creu, sy'n fantais i'r Fwrdeistref Sirol gyfan, a bydd modd manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael gan Metro De Cymru a'r Fargen Ddinesig.

Dyma'r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer holl feysydd allweddol y prosiect:

Cynllunio

Cafodd caniatâd cynllunio amlinellol ym mis Hydref 2016, a chafodd caniatâd cynllunio llawn ei dderbyn gan Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ar ddydd Iau, 7 Medi.

Contractwyr

Cafodd Willmott Dixon ei benodi ym mis Mehefin 2017.

Gweithgarwch ar y Safle

Daeth y gwaith dymchwel i ben rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2017. Yn fuan wedi hynny, cynhaliodd y Cyngor arddangosfa gyhoeddus ddeuddydd yng Nghanol Tref Pontypridd er mwyn i drigolion a busnesau lleol weld y cynlluniau diweddaraf a chwrdd â charfan y prosiect.

Y Tri Adeilad

Mae'r caniatâd cynllunio yn galluogi'r Cyngor i gynnig 14,693 metr sgwâr o arwynebedd llawr yn rhan o ddatblygiad defnydd cymysg ar gyfer swyddfeydd yn bennaf mewn tri adeilad nodedig. 

Bydd Adeilad A (sy fwyaf agos i Faes Parcio Gas Road) ac Adeilad B (a fydd yng nghanol y tri adeilad) yn cynnwys nifer fawr o swyddfeydd. Adeilad C (sy fwyaf agos i Heol y Bont) fydd y porth i Bontypridd. Bydd yn cynnwys llyfrgell newydd, pwynt cyswllt cymorth a chyngor i gwsmeriaid y Cyngor, caffi, ystafelloedd cyfarfod, cyfleusterau i'r gymuned a chanolfan hamdden a ffitrwydd newydd.

Bydd gwagle o 14 metr yn cael ei gadw rhwng pob adeilad er mwyn darparu mynediad i'r cyhoedd ac ardal gylchredol, ac i gynnig golygfeydd o Barc Ynysangharad o Taff Street. Bydd tri phlatfform gwylio yn cynnig golygfeydd tuag at yr afon.

Pont i Barc Ynysangharad

Rydyn ni'n archwilio'r cyfle i adeiladu pont droed newydd o ailddatblygiad Dyffryn Taf, dros Afon Taf i Barc Ynysangharad. Mae cynlluniau cysyniad yn cael eu paratoi ar hyn o bryd, yn ogystal â chynnal cyfres o arolygon ac ymchwiliadau daear. Bydd cynnwys y bont yn y prosiect Dyffryn Taf yn destun adroddiad ar wahân.

Camau Nesaf

Bydd y pecyn cyllido arfaethedig yn cael ei gwblhau, ynghyd â chyflwyniad i'r Cyngor ddiwedd yr hydref 2017. Bydd yr holl gyfleoedd i sicrhau cyllid ychwanegol yn cael eu harchwilio. Y dyddiad lle rydyn ni'n bwriadu cyrraedd pris adeiladu sefydlog gyda Willmott Dixon yw Rhagfyr 2017.

Y gobaith yw bod y gwaith adeiladu yn cychwyn ym mis Ionawr 2018.

Mae cyfarfodydd rheolaidd wedi'u trefnu gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynghylch meddiannaeth yr adeilad swyddfa mwyaf. Mae trafodaethau gyda meddianwyr posibl sylweddol eraill yn parhau.

Wedi ei bostio ar 02/10/17