Skip to main content

Y Tywysog Harry yn cyflwyno Gwobr Aur i'r Cyngor

Mae Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Harry o Gymru wedi cyflwyno Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (CCC) Cyfamod y Lluoedd Arfog i Gyngor Rhondda Cynon Taf. 

Y Wobr yma yw bathodyn anrhydedd uchaf ei barch y Weinyddiaeth Amddiffyn i gyrff sydd wedi amlygu cefnogaeth eithriadol i gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys Cyn-filwyr a Milwyr wrth Gefn. 

Yn derbyn y Wobr ar ran y Cyngor roedd y Cynghorydd Maureen Webber, y Dirprwy Arweinydd ac yn Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Lluoedd Arfog. 

Yr arweinydd yn y cyflwyniad yn yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn Llundain oedd Syr Michael Fallon, yr Ysgrifennydd Amddiffyn. 

"Rydym ni fel corff yn cydnabod yr ebyrth mawr a wna ein milwyr, yn ddynion a menywod, bob dydd er mwyn ein cadw yn ddiogel" meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Lluoedd Arfog "Yn ogystal â hyn, rydym ni'n gwerthfawrogi rôl eu teuluoedd a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog." 

"Byddwn ni'n parhau i weithio yn galed er mwyn codi ymwybyddiaeth dros aelodau ein Lluoedd Arfog ddoe a heddiw. Mae'r ffaith fod yr achlysuron dathlu a gynhaliwn yn mynd o nerth i nerth o hyd yn dangos faint mae pob un ohonom ni yn Rhondda Cynon Taf yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. 

Yn derbyn Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog gyda'r Cynghorydd Webber roedd Jason Hurford, Swyddog Cymorth Addysg Lluoedd Ei Mawrhydi'r Cyngor a Milwr wrth Gefn, a Karen Spencer-Jenkins, Blaen Swyddog a Milwr wrth Gefn. 

"Dylai enillwyr Gwobr Aur y flwyddyn yma fod yn eithriadol o falch," meddai Syr Michael Fallon, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, "Maent yn gwneud gwaith gwych i gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog, ac yn hyrwyddo'r adduned i eraill. 

"Rwyf wrth fy modd yn cydnabod cyflogwyr sy'n ei wneud yn berffaith glir fod cyflogi pobl sydd â sgiliau milwrol yn dda i fusnes, beth bynnag fo'u maint, lleoliad, neu sector. 

"Gobeithio y bydd eraill yn dilyn eu hesiampl, a thrwy hynny yn cyflwyno gwell fargen i Gyn-filwyr ac i deuluoedd y Lluoedd Arfog." 

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid na ddylai’r sawl sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, boed yn rheolaidd neu wrth gefn, y sawl sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol, na’u teuluoedd fod o dan anfantais o gymharu â phobl eraill o ran cael gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. 

Diolchodd Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Harry i bob un o holl enillwyr y flwyddyn yma. Clywodd am eu mentrau llwyddiannus, megis darparu ail yrfaoedd a hyfforddiant i Gyn-filwyr am hyblygrwydd i Filwyr wrth Gefn gael ymgymryd â hyfforddiant neu wasanaeth, a chyfleoedd am swyddi i rai sy'n briod â milwyr.

Wedi ei bostio ar 25/10/2017