Skip to main content

Sefydlu croesfan ddiogel yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sefydlu man croesi diogel yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest diolch i fuddsoddiad sylweddol ar y cyd â Phrifysgol De Cymru (PDC).

O ganlyniad i'r prosiect £150,000 yma fe gyflwynwyd croesfan twcan ar y Brif Rodfa (ffordd yr A4054), wedi'i lleoli rhwng cyffyrdd Parc Chwaraeon Prifysgol De Cymru a Heol Powys. Mae'n darparu man croesi diogel i gerddwyr a beicwyr ar y brif ffordd drwy'r ystad ddiwydiannol, gyda Gorsaf Reilffordd Ystad Trefforest gerllaw.

Mae signalau traffig newydd i gael eu cyflwyno ar y ffordd, a chafodd y rheiny eu sefydlu gyntaf. Cafodd y goleuadau eu comisiynu ddydd Mawrth, 3ydd Hydref.

Gwnaeth y Cyngor y buddsoddiad yma drwy'i raglen Defnydd Gwell. Mae hon wedi'i chynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2017/18.

"Yn dilyn comisiynu'r goleuadau traffig," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon  ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Briffyrdd "rydym ni wedi cyflwyno man croesi diogel newydd i gerddwyr a beicwyr.

Mae'r Cyngor a Phrifysgol De Cymru wedi buddsoddi £75,000 er mwyn hwyluso'r cynllun yma. Bydd yn gwella diogelwch mewn man prysur sy'n gwasanaethu busnesau lleol, Parc Chwaraeon y Brifysgol, a Gorsaf Reilffordd Ystad Trefforest. Rydym ni wedi lleoli'r man croesi mewn lle sy'n addas i fyfyrwyr sydd am fanteisio ar y cyfleuster chwaraeon ar ôl iddynt deithio i'r ardal ar y trên.

“Unwaith eto, dyma gynllun sy'n dangos fod y Cyngor yn buddsoddi yn ei Briffyrdd fel blaenoriaeth drwy #BuddsoddiRhCT, er budd preswylwyr Rhondda Cynon Taf a rhai sy'n ymweld hefyd. Fe ddengys hefyd fod y Cyngor yn sicrhau arian pan fo modd er mwyn cynorthwyo gwella'r Rhwydwaith Priffyrdd ehangach.”

Wedi ei bostio ar 05/10/17