Skip to main content

Hynau Newydd Rhianta

Yn dilyn ymgyrch genedlaethol a ddenodd geisiadau gan rieni o bob cwr o Gymru, mae pedwar teulu wedi cael eu henwi’n wynebau newydd ymgyrch Llywodraeth Cymru ar gyfer magu plant positif. 

Roedd hyn i gyd yn rhan o’r ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo, sy’n rhoi cymorth a chyngor i rieni plant ifanc yng Nghymru ac yn dangos sut mae annog a chanmol plant am ymddygiad da yn fwy effeithiol na chosbau llym am ymddygiad heriol. 

Dewiswyd y pedwar teulu, sy’n dod o Rydyfelin, y Rhyl, Casnewydd ac Abertawe, gan banel o arbenigwyr ar fagu plant o blith mwy na 200 o geisiadau i’r gystadleuaeth ar-lein. Mae’r teuluoedd a ddewiswyd wedi cytuno i rannu eu profiadau personol o lawenydd a heriau magu teulu ifanc, yn y gobaith y bydd rhieni eraill yn gallu elwa o’u hanesion. 

Dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: “Llongyfarchiadau i’r pedwar teulu sydd wedi cael eu dewis i fod yn wynebau ein hymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo. Roedd yr ymateb a gawsom i’r gystadleuaeth Wyneb Magu Plant yn rhyfeddol a bu’n anodd i’r beirniaid ddewis o blith cymaint o hanesion ysbrydoledig. 

“Yr hyn a oedd yn gyffredin i’r holl rieni oedd eu bod wedi cychwyn ar daith na allai unrhyw un fod wedi’u paratoi ar ei chyfer. Trwy gymryd rhan yn yr ymgyrch a rhannu eu profiadau bywyd go iawn, mae’r teuluoedd yn gobeithio y bydd rhieni eraill yn gallu elwa, boed hynny trwy ddysgu o’u camgymeriadau neu roi cynnig ar bethau sydd wedi gweithio iddyn nhw.” 

Yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y cyhoedd yng Nghymru yn dod i adnabod y teuluoedd, trwy ddarllen eu disgrifiadau nhw o fywyd fel rhieni plant ifanc, yn ogystal â lluniau, fideos a phostiadau ar wefan a thudalen Facebook yr ymgyrch. 

CYFLWYNO’R TEULUOEDD 

Mae Stephen Smyth yn byw ym mhentref Rhydyfelin, ger Pontypridd, gyda’i ferch Ayda (6) a’i fab George (3). Disgrifiodd enedigaeth ei ferch fel profiad “emosiynol a oedd wedi newid bywyd”, ac er ei fod ef a’i wraig, Teresa, ychydig yn bryderus, fe aethon nhw i’r afael â’r her magu plant yn frwd, gan gytuno y bydden nhw’n gwneud eu gorau a “mwynhau’r daith”. 

Fel rhieni, fe roddon nhw amser ac amynedd uwchlaw popeth ac, yn raddol, fe sefydlon nhw drefn a oedd yn gweithio iddyn nhw ac Ayda. Pan aeth Teresa’n feichiog eto, fe gawson nhw’r newyddion ofnadwy bod canser arni. Fe addawon nhw ei ymladd gyda’i gilydd, ac Ayda a George oedd y glud a’u helpodd i ddal popeth at ei gilydd.

Yn anffodus, saith mis ar ôl i George gael ei eni, bu farw Teresa, ond roedd Stephen wedi addo magu eu dau blentyn mewn ffordd a fyddai’n gwneud eu mam yn falch, ac mae’n benderfynol o wneud hynny. 

“Ni all unrhyw un ddweud wrthych sut i fagu eich plant,” meddai Stephen. “Y peth pwysig yw cael eich traed oddi tanoch a chanfod beth sy’n gweithio i chi a’ch rhai bach. Byddai unrhyw riant yn ffodus iawn pe byddai popeth yn syrthio i’w le, felly byddwch yn amyneddgar, rhowch amser iddo, a bydd popeth yn iawn.”

Mae Van a Mark Goodbody yn byw yn Abertawe, gyda Lily sy’n 2 oed. Er bod y ddau ohonyn nhw’n gweithio, maen nhw’n ceisio trefnu eu hamserlenni fel eu bod yn treulio cymaint o amser â phosibl gyda Lily, fel nad ydyn nhw’n colli ei datblygiad. Maen nhw’n disgrifio magu plant fel “y swydd fwyaf heriol ond fwyaf gwerth chweil yn y byd” na all unrhyw un eich paratoi ar ei chyfer.  

Mae Lily’n siarad Saesneg a Fietnameg (ganwyd ei mam yn Fietnam) ac mae ganddi bersonoliaeth gref. Fel rhieni, maen nhw wedi dysgu sut i ymdopi ag unrhyw ymddygiad heriol trwy ddefnyddio technegau tynnu sylw, aros yn gadarnhaol a dangos cariad ac anwyldeb, yn enwedig ar ddiwrnodau pan fyddan nhw wedi blino ac o dan bwysau.

Maen nhw’n ceisio dangos esiampl dda iddi trwy weithio’n galed, gofalu amdanyn nhw eu hunain, helpu pobl a byw bywyd hapus ac iach. 

“Byddwch yn amyneddgar gyda’ch plant a cheisiwch weld y byd trwy eu llygaid nhw,” meddai Van. “Treuliwch amser gyda nhw, a mwynhewch a thrysorwch y cyfnod hwn, gan nad oes unrhyw beth gwell na gweld eich plentyn yn hapus, yn chwarae ac yn tyfu. Peidiwch ag ofni cyfaddef y gallech wneud camgymeriadau weithiau wrth fagu plant. Y peth pwysig yw ceisio dysgu o’r camgymeriadau hynny.” 

Mae Natasha a Dean Jones yn byw yn y Rhyl gyda’u tri phlentyn, sef Sebastian (6), Imogen (4) ac Eliza (9 mis). Mewn cartref dwyieithog lle mae’r fam yn siarad Cymraeg a’r tad yn siarad Saesneg, mae’r teulu Jones yn byw mewn “corwynt magu plant”, gan geisio cydbwyso popeth er mwyn sicrhau bod yr holl blant yn cael digon o sylw, cwtshys, amser chwarae a sgyrsiau. 

Mae gan Sebastian broblemau symudedd, ac mae gan Imogen fath prin o glefyd yr ysgyfaint, sy’n golygu ei bod hi’n anodd cydbwyso anghenion iechyd ac apwyntiadau ysbyty â chael hwyl fel teulu. Fel rhieni, maen nhw bob amser wedi credu ei bod hi’n bwysig canmol a thynnu sylw at ymddygiad da, yn hytrach na meddwl am gosbau, er mwyn cynyddu hyder a pharatoi eu plant ar gyfer y dyfodol. 

“Cyfnod dros dro ydyw, dyna’i gyd”, meddai’r fam amser llawn, Natasha. “Pryd bynnag y byddwn ni’n wynebu adeg heriol, boed hynny’n gwsg aflonydd, problemau bwydo neu daro, rwy’n atgoffa fy hun mai cyfnod dros dro ydyw a chyn hir byddwn ni’n ymdopi â’r un nesaf.” 

A hwythau’n fydwraig ac athro ysgol uwchradd yn ôl eu trefn, roedd Naomi a Sam Price-Bates o Gasnewydd yn credu eu bod nhw wedi’u paratoi’n dda ar gyfer dyfodiad Myla fach, ond 16 mis yn ddiweddarach, mae magu plant yn dal i’w syfrdanu ar adegau. 

Er iddynt gyfaddef eu bod nhw’n dal i ddod i arfer â’r addasiad enfawr i’w bywyd, maen nhw bellach yn teimlo eu bod yn gallu mwynhau’r adegau sy’n rhoi boddhad, ac yn derbyn bod llawer o bethau na allan nhw eu rheoli. Mae’r pwysau i fagu’r plentyn ‘perffaith’ wedi cael ei ddisodli â dull ‘profi a methu’ – yn ogystal â sylweddoli ei bod yn cymryd amser i ddod i adnabod eich plentyn a’ch credoau magu plant eich hun. 

“Cyfathrebu, cyfathrebu, cyfathrebu,” meddai Naomi. “Siaradwch â’ch partner, rhieni eraill, ffrindiau a chydweithwyr – unrhyw un! Mae trafod bob amser yn gwneud pethau’n well, p’un a ydych chi eisiau dadlwytho neu gael sgwrs mam falch ynglŷn â geiriau newydd mae’ch plentyn bach yn gallu eu dweud. Rhannu yw’r ffordd orau o’ch cynorthwyo eich hun a phobl eraill.” 

Wedi ei bostio ar 30/10/17