Skip to main content

Siop Goffi Newydd i Ysgol yng Nghwm Cynon

Mae siop goffi newydd wedi agor yn Ysgol Gyfun Aberpennar, yn dilyn gwaith ailwampio mawr.

'Expresso Yourself' yw enw'r siop goffi, o ddewis y disgyblion eu hunain. Mae steil y lle wedi'i seilio ar thema siopau coffi'r Stryd Fawr, ac mae'r staff a'r myfyrwyr fel ei gilydd wrth eu bodd yno.

Cafodd hen ardal cegin yr Ysgol ei hailddylunio a'i hailadeiladu'n llwyr yn ystod gwyliau'r haf. Rhan oedd hyn o raglen cynnal gynlluniedig y Cyngor mewn adeiladau addysg ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf.

"Roeddwn i wrth fy modd yn ymweld ag 'Expresso Yourself'," meddai'r Cynghorydd Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes "Braf oedd gweld y cyfleuster hyfryd a soffistigedig yma yn yr Ysgol."

"Mae'n amlwg fod y disgyblion wrth eu boddau yno. Dyma enghraifft o'r union effaith a ddymunwn gyda'n buddsoddi parhaus er mwyn gwella a moderneiddio ein hysgolion.

"Mae'r Cyngor wedi gweithio gyda'r ysgol a'i disgyblion, a bu hyn yn fodd i ddylunio a darparu  cyfleuster fydd yn destun balchder cyflawn iddynt,"

Fe gostiodd y gwaith yn Ysgol Gyfun Aberpennar dros £400,000. Rhan yw hyn o Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, wedi cael ei hariannu drwy Raglen Gyfalaf y Cyngor - #BuddsoddiadRhCT

Mae hyn yn ei thro yn rhan o raglen ehangach y Cyngor i ddarparu cyfleusterau bwyta modern yn ei ysgolion, ac i wella llesiant y disgyblion a'r staff.

Mae Siop Goffi Expresso Yourself yn gwerthu diodydd poeth ac oer, yn ogystal â bwydlen i dynnu dŵr o'r dannedd am brisiau fforddiadwy. Dyma gyfle i'r disgyblion a'r staff fwynhau cwmpeini eu cyfeillion a'u cyd-ddisgyblion mewn awyrgylch hamddenol. Gwasanaeth Arlwyo'r Cyngor sy'n rhedeg y Siop Goffi, a gafodd ei dylunio a'i hadeiladu gan gontractwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn safonau siopau coffi'r Stryd Fawr. 

Cyflawnwyd gwaith cynnal arall yn Ysgol Gyfun Aberpennar yn y misoedd diwethaf. Roedd hyn yn cynnwys cyfnewid ffenestri a tho fflat a gosod rhai newydd yn eu lle.

 Bydd gwaith gwella yn y dyfodol yn cynnwys hyb dysgu newydd, a man sgiliau bywyd natur yn hen Dŷ'r Gofalwr ar safle'r Ysgol.

"Mae ychwanegu Expresso Yourself i amgylchedd ein Hysgol wedi cyfoethogi ein darpariaeth," meddai Samantha Evans, y Pennaeth "Mae pawb wedi cymryd at y lle."

“Perthyn i ysgolion ddoe mae'r hen ffreutur llwm, ac yn ei le cawsom gyfleuster modern sy'n gweddu i'r dim i amgylchedd yr 21ain Ganrif.

"Mae pawb sy'n gysylltiedig â'n hysgol yn gwerthfawrogi buddsoddiad Cyngor Rhondda Cynon Taf ynom ni."

Mae'r holl gynhyrchion sydd i’w gwerthu yn Expresso Yourself yn Ysgol Gyfun Aberpennar yn unol â Safonau Diogelwch Bwyd. 

Dros y tair blynedd nesaf, bydd rhaglen #BuddsoddiadRhCT y Cyngor yn buddsoddi £200 miliwn mewn gwella ysgolion, mannau chwarae, cyfleusterau hamdden, canol trefi a phentrefi, a  phriffyrdd

Wedi ei bostio ar 30/10/2017