Skip to main content

Cau Heol Meisgyn er diogelwch y cyhoedd

Bydd angen cau darn un-ffordd Heol Meisgyn, Aberpennar, dros dro er diogelwch y cyhoedd yn ystod cam nesaf Cynllun gwaith y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar.

Prif nod y cynllun blaenllaw yma yw adeiladu pont 60m o uchder o Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon i Heol Meisgyn, sy'n mynd dros reilffordd Aberdâr-Caerdydd a'r Afon Cynon, erbyn 2019/20. Bydd y cynllun yma'n darparu heol gyswllt allweddol ar gyfer cerbydau sy'n teithio ar hyd yr A4059 a'r B4275. O ganlyniad i hyn, bydd llai o draffig yn Aberpennar ac ar hyd coridor ehangach yr A4059/B4275.

Mae cynydd da yn cael ei wneud ar bob elfen o waith y cynllun ehangach. Mae gwaith gwella mawr i gyffordd Cardiff Road ger Ystâd Ddiwydiannol Cwm Cynon wedi cael ei gwblhau. Mae gwaith clirio'r safle hefyd wedi cael ei gwblhau cyn i'r gwaith gwella sylweddol ar gyffordd yr A4059 gychwyn yn hwyrach yn y flwyddyn.

Bydd Miskin Cottages 1 a 2 , Heol Meisgyn yn cael eu dymchwel ynghyd â'r garejys cyferbyn. Bydd y gwaith dymchwel yn dechrau ar 9 Hydref. Bydd rhaid cau darn un-ffordd o Heol Meisgyn dros dro ar 9 Hydref. Byddwn ni'n cau'r un darn o'r ffordd dros dro rhwng 16 Hydref a 22 Tachwedd.

Bydd gwyriadau lleol yn eu lle a digon o arwyddion clir. O ochr ogleddol y ffordd, bydd y llwybr amgen yn mynd trwy Bailey Street a Glyngwyn Street.

Mae'r Cyngor yn argymell i deithwyr ddefnyddio llwybr arall i gyrraedd y B4275 yn ystod y cyfnod yma.

Bydd mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys yn ystod y cyfnod yma, ond ni fydd mynediad i gerddwyr.
Wedi ei bostio ar 05/10/2017