Skip to main content

Y Maer yn ymuno â Dathliadau Pen-blwydd Preswylydd yn 100 oed

Dathlodd un o breswylwyr Rhondda Cynon Taf, Letty Wills, ei phen-blwydd yn 100 oed yng nghwmni ei theulu a’i ffrindiau, a chafodd ymweliad arbennig gan brif ddinesydd y Fwrdeistref Sirol! 

Roedd Mrs Wills, sydd bellach yn byw yng Nghartref Gofal Park Newydd yn Nhonysguboriau, wedi cael diwrnod gwych gyda'i theulu a'i ffrindiau, ac roedd gan ei cherdyn pen-blwydd o'r Frenhines le amlwg ymhlith yr holl gardiau eraill. 

Cafodd Mrs Wills, sydd yn wreiddiol o Dre Alaw, ei geni yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyfnod o galedi difrifol ac ansicrwydd o gwmpas byd. Roedd Brwydr Polygon (rhan o Frwydr Passchendaele) yn Ypres yn dwyn miloedd o fywydau ac yn anafu llawer yn rhagor. 

Gweithiodd Mrs Wills yn swyddfeydd y Co-op yn Nhonypandy, a bu'n briod â'i gŵr Les am 65 o flynyddoedd. Bu farw ei gŵr yn 2014, yn 96 oed. 

Roedd gan y cwpl ddau o blant, Janice a Kelvin, pump o wyrion a phum gor-wyres. 

Mae Mrs Wills yn rhannu ei phen-blwydd gyda John F Kennedy, y gantores jazz Ella Fitzgerald, y canwr a'r actor Dean Martin, yr actores Zsa Zsa Gabor a'r gantores Vera Lynn. 

Meddai'r Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf: "Roeddwn wrth fy modd i fynd draw i gwrdd â Letty Wills ar adeg ei phen-blwydd yn 100 oed. Mae hi'n wraig hyfryd sydd wedi byw trwy gymaint o hanes. 

"Mae hi’n dal i fwynhau bywyd, mae hi wrth ei bodd gyda’i theulu ac wedi mwynhau ei dathliadau hefyd."

Wedi ei bostio ar 30/10/2017