Skip to main content

Gwaith adnewyddu o bwys mawr yn Amlosgfa Glyn-taf

Cyn hir, bydd gwaith adnewyddu o bwys yn dechrau yn Amlosgfa Glyn-taf er mwyn cynorthwyo addasu'r cyfleuster yma ar gyfer y dyfodol er budd defnyddwyr y gwasanaeth.

Bydd gwaith yn dechrau o ddydd Llun, 30ain Hydref, er mwyn adnewyddu'r cyfleuster yma yn Heol y Fynwent, Pontypridd. Dyma Amlosgfa gyntaf Cymru, a agorwyd ym 1924. Bydd hyn yn cynnwys cael dau amlosgydd newydd yn lle'r hen rai, a gosod offer lliniaru mercwri.

Bydd y gwaith yn parhau tua 26 o wythnosau. Bydd raid cau'r Amlosgfa bob Dydd Llun fel mesur angenrheidiol er mwyn i'r contractwyr gael mynd ymlaen a'r gwaith. Gan hynny, am bedwar diwrnod yn unig y bydd yr Amlosgfa ar agor.

Yn ogystal â hyn, bydd y gwasanaethau yn cau am wythnos o ddydd Llun, 6ed Tachwedd, fel mesur angenrheidiol er mwyn gosod deunydd llorio newydd yn lle'r hen rai o amgylch i'r amlosgyddion. Byddant yn ailddechrau o ddydd Mawrth, 14eg Tachwedd.

Nodwch na fydd y mesurau hyn yn amharu ar neb ond y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau'r Amlosgfa. Bydd tiroedd yr Amlosgfa yn dal ar agor o hyd yn ystod yr oriau arferol i ymwelwyr.

Mae gosod amlosgyddion newydd yn lle'r hen rai yn dilyn buddsoddiad diweddar y Cyngor yng Ngholomendy Glyn-taf er mwyn adnewyddu'r Colomendy gwych yn yr hen Ardd Goffa. Cafodd y gwaith yma ei gwblhau yn 2016. Roedd yn cynnwys trwsio difrod i'r to, ac unioni difrod i blaciau a cherrig coffa. Cafodd y rhain eu symud, eu glanhau, a'u gosod yn ôl yn sownd.

"Cafodd Amlosgfa Glyntaf ei hadeiladu ym 1924, bron canrif yn ôl," meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis Dirprwy Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant, a Lles Cyngor Rhondda Cynon Taf "Bydd y gwaith adnewyddu mawr yma o gymorth i'w chynnal fel cyfleuster sy'n addas at y dyfodol. Mae hyn yn dilyn o fuddsoddiad y Cyngor yn y Colwmbariwm yn yr Ardd Goffa, a gwblhawyd y flwyddyn ddiwethaf.

Does oes dim modd amharu ar y gwasanaethau yn yr Amlosgfa i ryw raddau, gan gynnwys ei chau am wythnos ar ei hyd. Dyna'r unig ffordd i hwyluso'r gwaith. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda chontractwyr er mwyn gofalu fod y gwaith yn cael ei gwblhau gan amharu cyn lleied ag y bo modd a'i gadw i redeg gymaint ag sy'n bosibl.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn er mwyn diolch i ddefnyddwyr y gwasanaeth am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith adnewyddu sylweddol ac angenrheidiol yma gael ei gyflawni."

Wedi ei bostio ar 27/10/2017