Skip to main content

Gwaith mawr ar gyffordd yr A4059 ac Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dechrau gwaith sylweddol ar gyffordd yr A4059 ac Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon. Dyma roi cychwyn ar gam mawr pwysig nesaf cynllun Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar.

O ganlyniad i'r cynllun blaenllaw yma, erbyn 2019/20 fe fydd pont 60 metr wedi cael ei hadeiladu ar draws rheilffordd Aberdâr-Caerdydd ac Afon Cynon, o Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon i Ffordd Meisgyn. Bydd hyn yn darparu cysylltiad allweddol i draffig ar ffordd yr A4059 a ffordd y B4275, yn lleddfu tagfeydd yn Aberpennar ac yng nghoridor ehangach ffordd yr A4059 a ffordd y B4275.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi cyn hynny fod Rhif 1 a Rhif 2 Bythynnod Meisgyn yn Heol Meisgyn, a'r garejys cyfagos i gael eu dymchwel o 16eg Hydref ymlaen, fel rhan o'r cynllun ehangach. Bydd y gwaith hwn yn gofyn am gau darn un Ffordd Meisgyn tan 23ain Tachwedd, er mwyn gofalu i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Yn ogystal â hyn, bydd y Cyngor yn dechrau gwaith ar gyffordd yr A4059  ac Ystad Ddiwydiannol Cwm o Ddydd Llun, 16eg Hydref ymlaen. Dechreuodd gwaith clirio safle yn yr ardal leol ar ddiwedd mis Medi.

Bydd y gwaith yn ehangu lôn gerbyd ffordd yr A4059 lle mae'n cwrdd â'r ystad ddiwydiannol. Bydd yn cyflwyno lonydd newydd ar y dar yma o'r ffordd - lôn ychwanegol (yn y ddau gyfeiriad) i draffig sy'n parhau i fynd ymlaen er mwyn sicrhau'r llif traffig mwyaf posibl, ac hefyd lonydd ychwanegol i draffig sy'n troi i mewn i'r Ystad Ddiwydiannol (o'r ddau gyfeiriad).

O ganlyniad i waith rheoli traffig manwl, bydd y mynediad i'r Ffordd Gyswllt newydd ar Draws y Cwm drwy gyffordd sy’n cynnwys goleuadau, gyda lonydd uno ychwanegol ymhellach ymlaen a lonydd troi pwrpasol. Os caiff cylchfan ei hadeiladu yn y lleoliad yma, byddai traffig sy'n troi yn rhwystro llif traffig a pheri oedi ar ffordd yr A4059. Dyna'r casgliad o'r gwaith modelu.

Byddai'r gyffordd fawr bwysig â goleuadau yn rheoli llif traffig yn fwy effeithlon. Byddai'n fwy diogel i gerddwyr hefyd.

Mae'r prosiect yn gofyn am adeiladu wal gynnal newydd a goleuadau stryd newydd hefyd. Ar yr un pryd, caiff y droedffordd sy'n cysylltu â Llwybr Cynon ei hehangu. Pan fydd cynllun ehangach Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm ei gwblhau yn y pendraw, caiff y droedffordd ei hymestyn i gysylltu â Ffordd Meisgyn.

Pan fydd y gwaith wedi cael ei gwblhau, bydd cyffordd yr A4059 ac Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon yn troi'n gyffordd a weithredir gan oleuadau traffig. Yn y cyfamser, bydd lôn bwrpasol ar gyfer troi i'r dde i mewn i'r gyffordd ym Mary Street, y Drenewydd/Newtown, yn cael ei hadeiladu hefyd.

Mae'r gwaith i fod i gael ei gwblhau yng Ngwanwyn 2018. Bydd angen mesurau rheoli traffig ar amryw o wahanol bwyntiau yn y prosiect, a bydd y Cyngor yn hysbysu preswylwyr cyn i'r rhain ddod i rym.

"Cyn hir, bydd gwaith yn dechrau ar gyffordd yr A4059," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd "Dyma'r prosiect mawr nesaf o bwys yng nghynllun ehangach Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar, sy'n mynd rhagddo yn dda. Daw'r gyffordd yn un o gydrannau hanfodol y cynllun.

“Dyma'r prosiect mwyaf hyd yn hyn i'w gyflwyno ar y safle o fewn cynllun ehangach Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd a ddaw, caiff preswylwyr, a defnyddwyr ffyrdd, weld drostyn nhw’u hunain y cynnydd sy'n cael ei wneud. Rwy'n falch fod y Cyngor yn cyflwyno'r prosiect

Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr am eu cydweithrediad drwy gydol y gwaith, a fydd yn gofyn am reoli traffig. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos â'i gontractiwr er mwyn cyflwyno'r prosiect mawr pwysig yma, gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar gymudwyr ac ar breswylwyr lleol.

Wedi ei bostio ar 19/10/2017