Skip to main content

Luisa'n Athrawes Orau'r Deyrnas

Mae'n swyddogol! Pennaeth Cynorthwyol o Rondda Cynon Taf yw'r athrawes uwchradd orau yn y Deyrnas Unedig! 

Mae Luisa Martin Thomas. pennaeth cynorthwyol Coleg Cymunedol Tonypandy wedi ennill Gwobr Aur Genedlaethol (y Deyrnas Unedig) yng nghategori Athro neu Athrawes Uwchradd Gwobrau Addysgu blynyddol Pearson, a gynhelir yn Llundain.

Yr Arglwydd Puttnam a sefydlodd Gwobrau Addysgu cwmni Pearson ym 1998, er mwyn cynnal dathliad blynyddol o athrawon ac athrawesau eithriadol. Diben hyn oedd cydnabod effaith athrawon ac athrawesau ysbrydoledig sy'n newid bywydau'r bobl ifanc sy'n ddisgyblion iddynt.

Roedd Luisa Martin Thomas ymhlith goreuon byd addysg y Deyrnas Unedig a dderbyniodd anrhydeddau am eu gwaith ysbrydoledig yn yr ystafell ddosbarth. Derbyniodd Luisa y Wobr Aur. Dyma'r anrhydedd uchaf i'r proffesiwn addysgu yng Ngwobrau Addysgu cwmni Pearson, sy'n dathlu rhagoriaeth ac ymrwymiad yn y rôl feunyddiol.

Naga Munchetty, cyflwynydd gyda'r BBC, a'r darlledwr Seán Fletcher, fu'n llywio'r achlysur gyda'i gilydd. Ymhlith y llu o enwogion fu'n cyflwyno'r gwobrau roedd Heather Stanning, y rhwyfwraig Olympaidd, a Shirley Ballas, prif feirniad rhaglen  Strictly Come Dancing.

"Rydym ni i gyd mor falch o'r cyflawniad gwych yma," meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes "Hoffem longyfarch Luisa Martin Thomas ar ei llwyddiant ar lefel y Deyrnas Unedig. Mae'r Wobr yn cydnabod mor galed y bydd hi'n gweithio, a'i hymrwymiad i'w rôl. O ganlyniad i hyn, mae hi wedi cael ei chydnabod drwy'r Deyrnas Unedig i gyd 

"Rydym ni'n hynod ffodus i gael y fath gyfoeth o dalent ymhlith ein staff addysgu yn ein hystafelloedd dosbarth ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'n bleser gennym heddiw i gynnig ein llongyfarchion gwresocaf i Luisa Martin Thomas." 

"Does mo’r geiriau gen i i fynegi'r hapusrwydd sy'n llenwi fy nghalon wrth gael fy nghydnabod fel
hyn," meddai Luisa Martin Thomas, "Alla i ddim diolch yn ddigon i Wobrau Addysgu cwmni Pearson am yr anrhydedd yma." 

"Rwy wedi cysegru fy mywyd i broffesiwn addysgu. Rwy'n dal mor frwdfrydig am fy ngwaith heddiw â'r tro cyntaf i mi gerdded i mewn i ystafell ddosbarth 16 o flynyddoedd yn ôl. 

"Nid sefyll y tu ôl i ddesg yw hanfod addysgu. Rhaid fforio ac ymchwilio i bethau, tanio profiad dysgu ag elfen o ddrama, ac amlygu egni a grym yn yr ystafell ddosbarth. 

“Rhaid sicrhau na chaiff yr un plentyn ei adael ar ôl, wrth i rywun feithrin eu hawydd i ddysgu. Rhaid ymroddi 100% i'r hyn mae rhywun yn credu ynddo. Rwy'n fy nghyfrif fy hun yn ffodus i gael dilyn gyrfa mor fuddiol a gwerth chweil.” 

Fe glywodd cynulleidfa niferus yn Seremoni Wobrau Addysgu'r Deyrnas Uned fod Luisa Martin Thomas "ar dân dros gefnogi llesiant y staff a'r disgyblion." Cafodd ei disgrifio hefyd fel y prif ysgogydd tu ôl i ddatblygu Coleg Cymunedol Tonypandy fel hyb meddwl, gan sicrhau fod adnoddau yn cael eu rhoi tuag at gynorthwyo i ddisgyblion a staff y technegau a'r dulliau ymdopi ar gyfer delio â straen, pryder, ac iselder. 

Ymunodd Luisa Martin Thomas â staff Coleg Cymunedol Tonypandy yn 2003, a derbyniodd y Wobr uchel ei pharch gan un 'i chyn-ddisgyblion, Sophie Evans, sydd bellach yn un o sêr prif lwyfannau Llundain ac Efrog Newydd. 

"Athrawon ac athrawesau yw'r arwyr tawel," meddai Michael Morpurgo, yr awdur arobryn plant. "Wrth i ni adrodd eu hanes, drwy dynnu sylw at eu sgiliau a'u hymroddiad, cawn gyfle i wneud cyfiawnder a hwy ac â'r proffesiwn cyfan.

“Ein gobaith ni, drwy Wobrau Addysgu Pearson, yw hybu enw da a gwerth yr athrawon ac athrawesau yn ein bywydau, eu pwysigrwydd   yn ein cymdeithas, a thrwy hynny gynorthwyo i annog y bobl ifanc mwyaf talentog ac ymroddedig i ddod yn athrawon ac athrawesau.”

Enillodd Mrs. Martin Thomas Wobr Aur yng Nghategori'r Athrawon ac Athrawesau Uwchradd ar ôl cael ei henwebu gan Liam Tranter, Prif Fachgen Coleg Cymunedol Tonypandy, a Abbie O'Leary, y Brif Ferch.

Caiff Gwobrau Addysgu Pearson y Deyrnas Unedig eu darlledu fel rhaglen 'Britain's Classroom Heroes' ar sianel BBC2 ar Ddydd Sul, 29ain Hydref, (6.00yh).

Wedi ei bostio ar 30/10/17