Skip to main content

Lloyd Macey yn morio canu ar yr X Factor

Bydd Lloyd Macey, un o ddoniau'r fro yn Rhondda Cynon Taf, yn mynd amdani pan ddaw rhaglen 'X Factor' yn fyw i'n sgriniau y penwythnos yma.

Un o'r Ynys-hir yn y Rhondda yw Lloyd, sy'n fab i'r Cynghorydd Darren Macey, Cynghorydd y pentref. Penderfynodd y beirniaid, Louis Walsh ei fod yn ddigon da i gyrraedd cymal olaf y categori Bechgyn ar ôl iddo roi cymaint o fwynhad i'w fentor, y beirniad gwadd Mika, wrth ganu 'How Far I'll Go' o ffilm boblogaidd Disney 'Moana', yn nhŷ Louis yn Istanbul.

"Hoffwn i longyfarch Lloyd yn galonnog am gyrraedd sioeau byw rhaglen 'X Factor'," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor.

“Rwyf wedi dilyn ei daith yn fanwl dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac yn sicr ddigon, mae'i berfformiadau wedi mynd o nerth i nerth.  Mae llais gwych ganddo, ac does dim reswm pam na allai fynd bob cam. Dyna pam yr hoffwn i annog pob un o holl breswylwyr Rhondda Cynon Taf roi hwb i Lloyd drwy bleidleisio drosto. 

"Rydym ni i gyd yn cefnogi Lloyd, sydd wedi gwneud pob un ohonom ni yma yn Rhondda Cynon Taf yn ofnadwy o falch.”

Bydd cyfle i ni wylio Lloyd yn perfformio pan ddaw rhaglen 'X Factor' i'n sgriniau am 8.20yh ar sianel ITV. Cewch bleidleisio drwy ffôn symudol, ffôn tŷ, ar-lein, neu drwy app symudol swyddogol rhaglen 'X Factor'.

Wedi ei bostio ar 26/10/2017