Skip to main content

Diane Raybould, Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

Mae Diane Raybould, sylfaenydd elusen Ffrindiau Mynwesol y Rhondda wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Mrs. Kate Thomas 

Sylfaenodd Mrs. Raybould yr elusen yn 2006, yn dilyn marwolaeth ei merch. Roedd hi wedi derbyn diagnosis o ganser y fron yn 2006. Aeth hi ymlaen i gynnig help a chefnogaeth i filoedd o fenywod lleol. 

Derbyniodd Mrs. Raybould Medal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines 2017. Dyma gydnabod ei gwasanaeth gwirfoddol i bobl sydd â chanser y fron. 

Diwrnod Arbennig: Oriel Ddelwedd

"Dyma wobr y mae Diane wedi'i haeddu'n llwyr," meddai Mrs. Kate Thomas, Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol. Bu hi'n gefn mawr i'w chymuned. Mae hi wedi amlygu arweiniad, ymwybyddiaeth, sgiliau ac ymroddiad yn ei rôl gydag elusen Rhondda Breast Friends." 

Yn frodor o Drealaw, derbyniodd Mrs. Raybould ddiagnosis o ganser y fron yn 50 oed. Bu farw Helen, ei merch, o'r salwch yn 28 oed. 

Dechreuodd Mrs. Raybould elusen Rhondda Breast Friends yn 2006, ar y cyd â grŵp o fenywod a gawsai'u heffeithio gan ganser y fron, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Nod yr elusen oedd darparu gwybodaeth a chymorth mawr eu hangen ar ôl i'w harbenigwyr meddygol eu rhyddhau.  

Derbyniodd Mrs. Raybould ei Medal gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, Mrs. Kate Thomas, Cadlywydd Urdd Frenhinol Fictoria, Bonesig Cyfiawnder Urdd Sant Ioan, Ynad Heddwch, mewn achlysur wedi'i lywio gan y Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf. Yn bresennol hefyd yn y seremoni arbennig roedd Mr. Roy Noble, Dirprwy Raglaw Morgannwg Ganol. 

"Aethom ni ati i ddechrau'r Grŵp Ffocws cyntaf yn y wlad gyda chydweithrediad corff Interlink Rhondda Cynon Taf," meddai Diane Raybould, BEM. "Roedd gyda ni 40 o gyrff cleifion a chynhalwyr/gofalwyr canser yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn gweithredu ein Siarter Hawliau a  gwella gwasanaethau a chymorth canser yn ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Bwrdd Iechyd Cwm Taf." 

"Bu cefnogaeth y gymuned yn anhygoel. Rydym ni'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth busnesau lleol a chyrff eraill. 

"Rydym ni wedi gadael cynhysgaeth yng Nghymru at y blynyddoedd a ddaw, ac mae'r Maer yn hollol fodlon cydnabod y bobl, y cyrff, eu cynrychiolwyr, a'r llu o gynrychiolwyr tu ôl iddynt." 

"Mae Diane Raybould yn hollol deilwng i dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig," meddai'r Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf "ar ôl sefydlu elusen Ffrindiau Mynwesol y Rhondda 11 o flynyddoedd yn ôl. 

"Rwyf wrth fy modd iddi dderbyn ei Medal yr Ymerodraeth Brydeinig gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol, ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ei bro frodorol sef Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 

"Hoffem ni i gyd ddiolch i Mrs. Raybould, yn gyntaf am sefydlu'r elusen, ac yn ail am gynnig arweiniad a chymorth i gynifer o fenywod lleol dros lawer o flynyddoedd.”

Wedi ei bostio ar 26/10/2017