Skip to main content

Cabinet yn cytuno i ddatblygu cynlluniau Parcio a Theithio newydd

Mae Aelodau o'r Cabinet wedi cytuno i ddatblygu cynlluniau ar gyfer 10 Cynllun Parcio a Theithio newydd. Bydd hyn yn golygu cannoedd o leoedd parcio ychwanegol ger gorsafoedd trenau.

Yn eu cyfarfod ddydd Iau, Medi 28, trafododd Aelodau o'r Cabinet adroddiad yn amlinellu canfyddiadau Adolygiad Capasiti Parcio a Theithio, a oedd yn argymell Rhaglen Gyfalaf o gynlluniau newydd i'w symud ymlaen.

Cafodd 19 gorsaf eu hadolygu i gyd dros y Fwrdeistref Sirol. O'r gorsafoedd yma, mae gan 10 ohonyn nhw dir y bydd modd ei ddefnyddio ar gyfer Cynlluniau Parcio a Theithio. Mae'r adroddiad yn argymell bod y gorsafoedd, sydd â lefel uchel o deithwyr, yn cael eu cyflwyno ar gyfer dichonoldeb neu gyflenwi pellach.

Y 10 gorsaf a gafodd eu cyflwyno yw Treherbert, Cwm-bach, Ynys-wen, Treorci, Llwynypïa, Fernhill, Abercynon (Cam 2), Pont-y-clun a Llanharan. Bydd cyfanswm o 600+ lle parcio newydd yn cael eu creu ger y gorsafoedd yma.

Mae'r tir sydd ger pob gorsaf naill ai nesaf at yr orsaf, neu o fewn pellter cerdded rhesymol iddi. Mae nifer y lleoedd ychwanegol y mae modd cynnwys ar bob safle yn amrywio o bump i dros 200.

Dydy Cam 2 yng Nghynllun Parcio a Theithio Parc y Porth ddim wedi'i gynnwys ar y rhestr. Roedd y cynllun yma eisoes wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i greu 50 o leoedd parcio ychwanegol. Bydd y prosiect yma'n cael ei gyflawni yn 2018/19.

Cytunodd Aelodau o'r Cabinet i gefnogi'r cynlluniau sydd wedi'u nodi, a hefyd i sefydlu Rhaglen Gyfalaf o Gynlluniau Parcio a Theithio i'w datblygu a'u cyflwyno.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Priffyrdd: “Cytunodd Aelodau o'r Cabinet bod yna gyfleoedd da i ehangu cyfleusterau parcio a theithio mewn 10 gorsaf leol. Bydd hyn yn cynnig manteision enfawr i gymudwyr o ran arbed amser teithio a chostau tanwydd, yn ogystal â lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd a bod o fudd i'r amgylchedd.

“Rydyn ni'n gwybod bod ymrwymiad i wella rhwydwaith y rheilffyrdd ar linellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful erbyn 2022. Cytunodd Cabinet y byddai darparu rhagor o leoedd parcio ger gorsafoedd lleol yn cynrychioli buddsoddiad pwysig gan y Cyngor er mwyn annog trigolion i fanteisio ar y ddarpariaeth cludiant cyhoeddus ychwanegol.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian i'r Cyngor i gyflwyno'r Cynllun Parcio a Theithio llwyddiannus yn y Porth. O fis Medi 2016, cafodd 73 lle parcio ychwanegol eu darparu, sydd wedi bob yn boblogaidd iawn ymhlith y bobl leol. Bydd yr ail gam yn dilyn hyn yn 2018/19, sydd eisoes wedi derbyn cyllid.

"Trwy fuddsoddi mewn rhagor o Gynlluniau Parcio a Theithio, bydd y Cyngor yn creu hygyrchedd gwell i ddulliau teithio cynaliadwy, gan ategu'r Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy'n buddsoddi'n drwm ym mhrosiect y Metro i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws De Ddwyrain Cymru. "
Wedi ei bostio ar 02/10/2017