Skip to main content

Enwebu Aelod o Staff y Cyngor am Wobr Amrywiaeth

Mae Gavin Lee Lewis, actor lleol sy'n gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf hefyd, wedi derbyn enwebiad am Wobrau uchel eu parch Amrywiaeth Cymru. Diben y rhain yw dathlu rolau a chyraeddiadau 'ffigurau dylanwadol ac eiconig' yng nghymunedau Cymru.

Yn ogystal â dilyn gyrfa fel actor, mae Gavin yn gwneud gwaith cymunedol ac yn cael ei gyflogi ran amser fel hyfforddwr yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon. Cafodd ei enwebu am gategori Gwobr Flynyddol Sêr Cymru er mwyn cydnabod ei waith codi arian i amryw o wahanol elusennau. Mae hyn yn cynnwys trefnu gemau pêl-droed enwogion.

Bu Gavin yn chwarae rhannau nodedig mewn cynhyrchiadau teledu mawr o bwys megis 'Pobol y Cwm', cyfres hynod lwyddiannus 'Suspicions' yn Unol Daleithiau America, a 'The Bad Education Movie'. Un o sêr y sgrîn yw Gavin bellach.  Pan fydd amserlen brysur Gavin yn rhoi cyfle iddo, mae'n gweithredu fel llysgennad dros  Ymgyrch Positifrwydd yn Newid Bywydau, sy'n ceisio trafod materion iechyd meddwl drwy hyrwyddo positifrwydd.

"Syndod llwyr i fi oedd cael f'enwebu," meddai Gavin wrth ymateb i'r enwebiad, " Rwyf mor ddiolchgar fod pobl wedi cydnabod fy ngwaith!

"Rwyf wastad wedi mwynhau ymwneud â'r gymuned bob amser. Mae hi'n ofnadwy o bwysig i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar bobl, yn enwedig ynghylch iechyd meddwl.  Gobeithio y bydd f'enwebiad o gymorth i hyrwyddo ymwybyddiaeth ac annog pobl i ddweud eu dweud a gwrthod dioddef yn ddistaw.  

"Bydd hi wastad yn galonogol bob amser i weld preswylwyr yn chwarae rôl mor weithgar yn eu cymunedau drwy gynorthwyo eraill," oedd sylw'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd y Cyngor, "Yn sicr ddigon, mae'n glod i ymagwedd Gavin ei fod bob amser yn trefnu amser, er gwaethaf ei amserlen brysur, i gynorthwyo eraill a chodi arian at achosion da.”

Wedi ei bostio ar 26/10/2017