Skip to main content

Ymgynghori ar newidiadau i Ganol Tref Tonypandy

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgynghori â thrigolion ynglŷn â chynlluniau arfaethedig i wneud newidiadau mawr i Ganol Tref Tonypandy.

Yn ystod mis Mawrth,  cyhoeddodd y Cyngor y byddai'n ystyried opsiynau i agor yr ardal, sydd ar hyn o bryd ar gyfer cerddwyr yn unig, i draffig, yng nghanol tref Tonypandy. Byddai'r newid posibl yn cyflwyno parth 20mya ar gyfer cerbydau tua'r gogledd yn unig, gyda chilfannau llwytho ac aros i gynorthwyo siopwyr. 

Cafodd y cynlluniau eu croesawu gan fasnachwyr lleol ym mis Awst, pan gynhaliodd y Cyngor achlysur ymgysylltu. Yn yr achlysur, cafodd y masnachwyr gipolwg cyntaf ar y cynnig.

Bydd y Cyngor yn mynd ymlaen i ymgynghori â'r gymuned ehangach yn ystod cyfnod o dair wythnos o ddydd Mawrth 31 Hydref. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gael ar wefan y Cyngor, lle gall trigolion fynegi eu barn hefyd trwy ddefnyddio arolwg ar-lein.

Ar ben hynny, bydd arddangosfa gyhoeddus ddydd Mawrth 7 Tachwedd yn Hope Church, Dunraven Street, Tonypandy, o 11am tan 7pm. Bydd modd i drigolion weld y cynlluniau yn fanwl, a bydd swyddogion y Cyngor wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Bydd ffurflenni ar gael er mwyn i drigolion adael unrhyw sylwadau.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar newidiadau mawr i Ganol Tref Tonypandy, ac yn gwahodd sylwadau trigolion i helpu i ddod i benderfyniad, a hynny ar ôl ymgynghori â busnesau lleol yn ôl ym mis Awst.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella canol ein trefi ac mae nifer o gynlluniau sy'n mynd rhagddyn nhw yn Nhonypandy. Cafodd cynllun parcio am ddim ei gyflwyno ym mis Ebrill, ac mae'r Cyngor yn rhoi Grant Cynnal Canol y Dref ar brawf i helpu masnachwyr i wella ymddangosiad blaenau eu siopau. Mae'r Cyngor hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gael cysylltiad Wi-Fi i'r cyhoedd am ddim yng nghanol pob tref.

"Cafodd y trefniadau presennol i gerddwyr yn Nhonypandy eu datblygu ar ddiwedd y 1990au ond y farn yw bod y diffyg traffig yn mynd heibio'r busnesau yng nghanol y dref wedi cyfrannu at nifer yr eiddo gwag yno ac mae hynny wedi cael effaith andwyol ar ffyniant y dref.

"Yn ystod yr ymgynghoriad, dywedodd y masnachwyr wrthon ni eu bod nhw'n cefnogi'r cynnig i adael i draffig lifo trwy Dunraven Street, er mwyn denu rhagor o fusnes gan bobl oedd yn mynd heibio. Mae barn y trigolion a'r byd busnes yn hynod bwysig yn y broses yma, ac mae'r Cyngor yn croesawu sylwadau'r trigolion yn yr ymgynghoriad yma."

Bydd rhagor o fanylion ar gael yma:  www.rctcbc.gov.uk/tonypandy  o Hydref 31, pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.

Rhaid i unrhyw sylwadau ychwanegol gael eu rhoi yn y cyfarfod cyhoeddus ar 7 Tachwedd, neu drwy lythyr at Reolwr y Gwasanaethau Traffig, Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU, erbyn 21 Tachwedd.

Wedi ei bostio ar 24/10/2017