Skip to main content

Dechrau adeiladu Llwybr Cymunedol Llantrisant

Yn dilyn gwaith clirio yn Nhonysguboriau, bydd gwaith adeiladu ar Lwybr Cymunedol Llantrisant yn dechrau yno.

Mae’r Cyngor yn buddsoddi £375,000 er mwyn creu llwybr cerdded a beicio a fydd yn dilyn yn fras lwybr yr hen linell reilffordd sy'n rhedeg yn gyfochrog â ffordd yr A473. Cowbridge Road fydd ei ben gorllewinol pellaf, a bydd e'n mynd heibio i'r tu ôl i Barc Manwerthu Glamorgan Vale tuag at Westfield Court, sef ei ben dwyreiniol.

Tri metr fydd lled y llwybr, a milltir bron ei hyd, i'w rannu gan gerddwyr a beicwyr. Bydd yn rhychwantu wardiau etholiadol Tref Llantrisant a Thonysguboriau

Dechreuodd gwaith clirio'r safle yn ystod mis Awst. Roedd hyn yn cynnwys clirio llystyfiant, ac hefyd symud a chael gwared ar yr hen linell reilffordd er mwyn creu tramwyfa chwe metr o ran lled ar hyd y llwybr lle caiff llwybr troed ei adeiladu.

Bydd cam adeiladu'r prosiect yn dechrau o'r wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 30 Hydref. Yn ogystal â hyn, bydd yn cynnwys gwaith traenio, arwyddion, ffensys, a gwaith cysylltiedig. Am hyd at wyth wythnos y bydd yn parhau. Bydd angen rheoli traffig ar bwyntiau mynediad i'r llwybr cymunedol.

"Derbyniodd y cynllun hwn dyllid sylweddol drwy #BuddsoddiRhCT," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd "Dyma ddangos fod y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn yr ardaloedd iawn er mwyn sicrhau darparu gwelliannu yn ein cymunedau.

“Bydd y buddsoddiad diweddaraf yma o £375,000 yn creu Llwybr Cymunedol Llantrisant, gan gynnig dewis teithio amgen a chynaliadwy yn rhychwantu dwy ward. Bydd o fudd i'r amgylchedd drwy leihau nifer y teithiau car yn yr ardal. Bydd hynny yn ei dro yn gwella iechyd a llesiant y gymuned.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella llwybrau cerddeda beicio lleol.  Dyna pam rydym ni wedi ymgynghori â phreswylwyr ynghylch Map Rhwydwaith Integredig drafft i Rondda Cynon Taf. Bydd hyn yn rhoi braslun, i'w ystyried cyn bo hir gan y Cabinet, o lwybrau cerdded a beicio sydd i’w sefydlu dros y 15 mlynedd nesaf.

Wedi ei bostio ar 24/10/2017