Skip to main content

Dull cyson tuag at gludiant ysgol wedi'i gymeradwyo

Mae'r Cabinet wedi adolygu darpariaeth cludiant ysgol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018/19 er mwyn sicrhau bod dull cyson yn cael ei weithredu ledled y Fwrdeistref Sirol.

Pennodd adroddiad i gyfarfod y Cabinet, a gafodd ei gynnal ddydd Iau 28 Medi, anghysondebau mae modd eu cywiro yn dilyn, er enghraifft, buddsoddiad mewn llwybrau cerdded diogel.

Mae'r Cyngor yn gweithredu un o'r polisïau cludiant ysgol mwyaf hael yng Nghymru – gan gynnal gwasanaeth cludiant ysgol mwyaf Cymru – sy'n gwasanaethu tua 10,500 o ddisgyblion bob dydd ac yn costio dros £10m y flwyddyn.

Mae gwaith gwella priffyrdd, er enghraifft, croesfannau newydd, cynlluniau llwybrau diogel mewn cymunedau, nodweddion diogelwch ffyrdd, datblygu tai a newidiadau i ysgolion yn effeithio ar feini prawf cludiant am ddim.  Esblygiad rhwydwaith y ffyrdd yw'r rheswm pam mae cludiant ysgol yn cael ei hadolygu'n rheolaidd.

Yn ôl yr adolygiad, mae modd diwygio nifer o lwybrau cludiant y brif ffrwd, gan fod llwybrau cerdded diogel bellach wedi'u cynnig.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Chwaraeon: "Mae adroddiad i'r Cabinet wedi adolygu darpariaeth cludiant ysgol y Cyngor, sy'n un o'r darpariaethau mwyaf hael yng Nghymru ac yn rhagori ar y ddarpariaeth statudol mae rhaid i bob Cyngor ei chynnig.

"Mae gwella'n priffyrdd drwy raglen #buddsoddiadRhCT yn flaenoriaeth i'r Cyngor yma. Mae buddsoddi sylweddol ar draws y Fwrdeistref Sirol wedi cyflwyno llwybrau cerdded diogel mewn cymunedau lleol, sydd wedi bod ar gael ers i'r Cyngor adolygu'i ddarpariaeth cludiant ysgol.

"Mae penderfyniad y Cabinet heddiw yn ystyried y buddsoddiad yma ac yn awyddus i sicrhau bod yna ddull teg a chyson o ran cludiant i'r ysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

"Mae darpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol Rhondda Cynon Taf yn parhau i gymharu'n ffafriol â Chynghorau eraill Cymru."

Mae argymhellion yr adolygiad, sydd wedi'u cytuno gan y Cabinet, yn effeithio ar 364 o ddisgyblion sy'n byw yn agosach na'r meini prawf o ran y pellter lleiaf mae'r Cyngor yn ei fabwysiadu. Yn dechrau o flwyddyn academaidd 2018/19, mae'r newidiadau yn effeithio ar gludiant o'r canlynol:

Blaenllechau i Ysgol Gynradd Parc y Darren

Cafodd cludiant ei chyflwyno o ganlyniad i gau Ysgol Babanod Blaenllechau, nid ar sail diogelwch. Rydyn ni'n deall i'r ddarpariaeth gael ei chynnal am y cyfnod lle roedd disgyblion yn Ysgol Gynradd Parc y Darren, ond ar ôl i'r cyfnod yma ddod i ben arhosodd y ddarpariaeth yn ei lle.

Ysgol Gymunedol Sir y Porth, Ysgol Gyfun y Cymer ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn

Cafodd cludiant ei chyflwyno yn y 1990au ar sail diogelwch. Mae ffordd osgoi'r Porth wedi agor ers hynny ac wedi lleihau llif y traffig, ac mae llwybr cerdded ar hyd Rheola Road bellach ar agor. Mae gwaith diogelwch pellach yn cael ei gyflawni fel rhan o fuddsoddiad Ysgolion y 21ain Ganrif a chynnig llwyddiannus am arian rhaglen Llwybrau Diogel i'r Ysgol.  Bydd y gwaith gwella Cemetery Road a Rheola Road yn cael ei gyflawni'n ddau gam, a bydd yr holl waith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd Awst 2018

Rhydfelen i Ysgol Gynradd Parc Lewis

Parhaodd y ddarpariaeth yn 2014 ar ôl i Ysgol Babanod Glantaf gau. Mae croesfan pâl a gwelliannau i ddiogelwch y ffordd wedi cael eu gwneud ar Cardiff Road, Glantaf, sy'n gwella'r llwybr cerdded yma ymhellach.

Llantrisant i Ysgol Gyfun Bryncelynnog

Cafodd cludiant ei darparu yn 2015 o ganlyniad i newid i'r dalgylch. Chafodd y llwybr diogel mo'i ystyried yn llwybr oedd ar gael y flwyddyn honno. Serch hynny, cafodd llwybr troed ar hyd Brynteg Lane – yn ogystal â gwelliannau llwybrau diogel eraill – ei osod yn 2016, ac mae'r llwybr cerdded bellach yn ddiogel ac ar gael.

Wedi ei bostio ar 02/10/2017