Skip to main content

Y Cabinet i drafod ariannu caeau chwaraeon 3G newydd mewn dwy ysgol

Bydd Aelodau o'r Cabinet yn trafod buddsoddiad o £650,000 er mwyn darparu caeau chwaraeon trydedd genhedlaeth pob tywydd mewn dwy ysgol uwchradd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn pennu safbwynt y Cyngor mewn perthynas ag adnoddau untro sydd ar gael yn dilyn adolygiad o gronfeydd arian wrth gefn a glustnodwyd. Mae'n argymell i'r Cyngor gytuno ar fuddsoddiad pellach mewn caeau 3G awyr agored yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog ac Ysgol Gyfun Rhyd-y-waun.

Mae'r caeau chwaraeon newydd,  a fyddai ar gael i'w defnyddio gan glybiau chwaraeon a chan y gymuned ehangach hefyd, yn costio £475,000 am bob un. Os bydd y Cabinet yn cytuno felly ddydd Iau, fe gâi'r caeau eu hariannu gan y buddsoddiad newydd o £650,000, ynghyd â chyfraniad o £300,000 o gyllideb 2018/19 y Cyngor ar gyfer addysg.

Mae Ysgol Gyfun Bryncelynnog ac Ysgol Gyfun Rhydywaun fel ei gilydd angen caeau chwaraeon awyr agored ychwanegol. Byddai'r caeau 3G newydd yn darparu ar gyfer anghenion addysgu a dysgu yn y ddwy ysgol fel ei gilydd. Yn ogystal â hyn i gyd, byddent yn darparu adnoddau cymunedol a fydd yn gwella iechyd a lles y preswylwyr.

Y caeau 3G newydd yma fyddai'n cyflwyno buddsoddiad diweddaraf y Cyngor mewn caeau chwaraeon awyr agored pob tywydd. Yn ystod mis Mawrth 2017, cyhoeddodd y Cyngor y câi tri chae newydd eu gosod – un yn y Rhondda, un yng Nghwm Cynon, ac un y nardal Taf-Elái.

Rydym ni'n dal i wneud cynnydd da wrth gyflwyno'r cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon, Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg, ac Ysgol Gymuned Glynrhedynog. Caiff y tri phrosiect ei gwblhau yn 2017/18.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu caeau chwaraeon awyr agored pob tywydd ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden. "Nod hyn yw gwella iechyd a lles y preswylwyr, a gofalu fod timau chwaraeon yn gallu parhau i chwarae yn yr awyr agored yn ystod cyfnodau o dywydd gwael."

Bydd y Cabinet yn ystyried buddsoddi ychwanegol o £650,000, yn cyfrannu i ddau gae trydedd genhedlaeth newydd yn Ysgolion Bryncelynnog a Rhydywaun. Mae hyn yn dilyn buddsoddiadau diweddar, drwy raglen gyfredol #BuddsoddiadRhCT, yn Abercynon, Pentre'r Eglwys, a Glynrhedynog.

“Bellach, mae preswylwyr yn mwynhau cyfleusterau newydd yn Y Pentre, Aberpennar, a'r Graig. I'r buddsoddi sylweddol cyn hyn gan y Cyngor mae'r diolch am hyn. Y Cyngor hefyd fu'n cyllido rhan o'r cae trydedd genhedlaeth newydd yn Heol Sardis ym Mhontypridd. Cafodd caeau 3G newydd eu darparu yn Nhonyrefail a Thonypandy fel rhan o brosiectau ehangach Ysgolion yr 21ain.

"Mae'r caeau hyn yn cyflawni ymrwymiad a wnaed i glybiau chwaraeon. Maent eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth i chwaraewyr lleol gwahanol gampau. Gwyddant fod modd iddyn nhw mfwynhau chwaraeon awyr agored beth bynnag fo'r tywydd.

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu’r cyfleusterau hamdden 3G mewn mwy a mwy o gymunedau ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf. Byddant yn darparu mwy o gyfleusterau i breswylwyr gadw'n iach drwy ymarfer corff yn yr awyr agored."

Wedi ei bostio ar 24/10/2017