Skip to main content

Cabinet yn cymeradwyo buddsoddiad pellach gwerth £7miliwn

Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynllun buddsoddi cyfalaf mewn meysydd allweddol o flaenoriaeth yn rhan o raglen #buddsoddiadRhCT am y pumed tro. Mae'r buddsoddiad pellach yma'n cynnwys dyrannu £7miliwn er mwyn gwella priffyrdd, cyfleusterau hamdden a chanolfannau/hybiau cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf.

Cafodd adroddiad ei gyflwyno i'r Cabinet mewn cyfarfod ar ddydd Iau, 26 Hydref. Roedd yr adroddiad yn nodi sefyllfa gyfredol y Cyngor mewn perthynas ag adnoddau untro y mae modd manteisio arnyn nhw yn sgil adolygu'r cronfeydd wrth gefn. Mae Aelodau'r Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad i gymeradwyo'r buddsoddiad pellach gwerth £7miliwn.

Bydd y buddsoddiad yn cyfrannu at waith sylweddol cynlluniau gwella'r priffyrdd a chaeau 3G newydd. Bydd y buddsoddiad hefyd yn cyfranu at waith datblygu rhaglen cyfalaf Parcio a Theithio, hybiau cymunedol a gwaith gwella ystafelloedd newydd canolfannau hamdden.

Maes Buddsoddi

Gwariant Amcangyfrifedig (£M)

Ariannu Cynlluniau Mawr y   Priffyrdd

3.000

Ariannu ar gyfer Caeau 3G

0.650

Rhaglen Parcio a Theithio

1.000

Pont   Pontrhondda

1.100

Canolfannau/Hybiau Cymunedol

0.500

Ystafelloedd Newid Canolfannau Hamdden

0.750

Cyfanswm y Buddsoddiad

7.000M

Bydd yr arian yn gweld buddsoddiadau ar wahân gwerth £1m er mwyn datblygu prosiectau priffyrdd mawr yn rhan o gynllun Ffordd Osgoi Llanharan ynghyd â pharatoi ffordd A4119 ddeuol rhwng Coed-elai ac Ynysmaerdy - neu 'Stinkpot Hill' yn lleol.

Bydd £1m ychwanegol hefyd yn cael ei fuddsoddi yng Nghynllun Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar, gan ddod â'r cyfanswm i fwy na £8.5 miliwn hyd yma, tra bod y Cabinet hefyd wedi cytuno ar fuddsoddiad o £ 1.1m i godi pont newydd yn lle Pont Pontrhondda ar hyd Heol Tyntyla rhwng wardiau Ystrad a Llwynypia.

Bydd penderfyniad y Cabinet yn gweld Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn y Beddau ac Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun yn derbyn caeau chwaraeon 3G newydd.

A chan ddiolch i'r buddsoddiad o £1m yn ein cynlluniau Parcio a Theithio, bydd cynlluniau ar gyfer gorsafoedd Treherbert, Ynyswen, Treorci, Llwynypia, Trehafod, Cwm-bach, Abercynon (Cam 2), Fernhill, Pont-y-clun a Llanharan yn cael eu datblygu ymhellach.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Mewn cyfarfod ar ddydd Iau, derbyniodd Aelodau'r Cabinet argymhellion i ddarparu buddsoddiad sylweddol gwerth £7miliwn mewn sawl maes allweddol ar gyfer y Cyngor. Bydd y buddsoddiad yma'n gefn i barhau â'r nifer o ymrwymiadau cyhoeddus.

"Mae rhaglen gwerth £200 miliwn #buddsoddiadRhCT yn parhau i gyflawni'n uchelgeisiau mewn meysydd buddsoddi allweddol megis Hamdden, Ysgolion, Mannau Chwarae, Priffyrdd, Tai a Chanol Trefi a Phentrefi, ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol.

"Er mwyn gweithredu ar ymrwymiad mae'r Cyngor wedi'i wneud i glybiau chwaraeon i wella cyfleusterau hamdden lleol, byddwn ni'n dyrannu £600,000 er mwyn darparu dau gae 3G, aml-dywydd yn rhan o'r buddsoddiad. Mae hyn yn gam ymlaen o ran gwireddu'n cynllun uchelgeisiol bod gan bob un o drigolion RhCT clfleuster tebyg o fewn radiws 3 milltir.

"Bydd tri chynllun mawr y priffyrdd yn derbyn buddsoddiad gwerth £1miliwn er mwyn symud ymlaen â'r cynlluniau. Mae'r Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar yn gwneud cynnydd da, tra bod gwaith datblygu ar gyfer y Ffordd Osgoi newydd yn Llanharan a deuoli'r A4119 yn Nhonyrefail yn parhau.

"Ar ddiwedd mis Medi, roedd y Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau rhaglen cyfalaf Parcio a Theithio a fydd yn darparu mwy na 600 o fannau parcio mewn 10 gorsaf drenau. Bydd £1miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi er mwyn datblygu'r cynlluniau yma, ynghŷd a buddsoddiad gwerth £1.1miliwn er mwyn codi pont newydd yn lle Pont Pontrhondda.

"Mae modd i'r Cyngor darparu rhagor o wasanaethau'r rheng flaen gyda llai o adnoddau ariannol trwy ailfodelu'r ffordd y mae'n darparu'r gwasanaethau yma. Bydd modd i'r Cyngor gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i breswylwyr trwy fuddsoddiadau sydd wedi'u targedu. Dyna pam mae'r Cabinet wedi cytuno i fuddsoddiad gwerth £500,000 er mwyn gwella Hybiau Cymunedol.

"Mae rhaglen #buddsoddiadRhCT yn sicrhau bod y Cyngor yn gallu darparu gwelliannau hanfodol ledled Rhondda Cynon Taf, er gwaetha heriau ariannol ac er gwaetha'r cyllid refeniw llai rydyn ni wedi'i dderbyn."

Yn dilyn adolygiad, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor llawn ym mis Tachwedd, bydd y buddsoddiad ychwanegol yn cael ei ariannu trwy ryddhau cronfeydd wedi'u clustnodi 'un tro'.

Wedi ei bostio ar 30/10/17